Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 14:31
- Cyfraniadau
- 89
- Geiriau a lefarwyd
- 9,058
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor drwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd rhan gyhoeddus y cyfarfod am 14:31.
2. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croeso i bawb i gyfarfod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Croeso i Aelodau yn arbennig. Mae hwn yn gyfarfod sy'n cael ei gynnal mewn fformat rhithwir. Rŷn ni i gyd yn rhithiol heddiw. Ar wahân i addasiadau yn ymwneud â chynnal y trafodion mewn fformat o'r fath, mae'r holl ofynion eraill o ran y Rheolau Sefydlog yn aros yn eu lle. Mae eitemau cyhoeddus y cyfarfod yma yn cael eu darlledu'n fyw ar Senedd.tv, ac mi fydd yna gofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi, fel sydd yn digwydd bob tro. Mae'n gyfarfod dwyieithog, felly mae yna gyfieithu ar y pryd ar gael o'r Gymraeg i'r Saesneg. Os bydd larwm tân yn canu, yn amlwg gan fod pawb yn ei leoliad unigol, bydd rhaid ichi ddilyn y cyfarwyddiadau sydd wedi cael eu darparu ar eich cyfer chi. Gaf i atgoffa'r holl gyfranwyr hefyd na ddylai fod angen ichi weithredu eich meicroffon? Mi fydd hynny'n cael ei wneud i chi. Ac a gaf i hefyd ofyn ichi sicrhau bod unrhyw ddyfeisiadau symudol wedi cael eu rhoi ar y modd tawel? Cyn bwrw iddi, gaf i holi os oes gan unrhyw un fuddiannau i'w datgan? Na, dim byd. Dyna ni. Bendigedig.