Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
- Dechrau
- 09:31
- Cyfraniadau
- 142
- Geiriau a lefarwyd
- 12,402
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:31.
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croeso i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Rŷn ni'n croesawu Aelodau atom ni y bore yma. Mae hwn, wrth gwrs, yn gyfarfod sy'n cael ei gynnal mewn fformat hybrid. Mae eitemau cyhoeddus y cyfarfod yn cael eu darlledu'n fyw ar Senedd.tv, ac mi fydd Cofnod o'r Trafodion hefyd, wrth gwrs, yn cael ei gyhoeddi yn ôl yr arfer. Mae'n gyfarfod dwyieithog, felly yn amlwg mae yna gyfieithu ar y pryd ar gael o'r Gymraeg i'r Saesneg. Os bydd larwm tân yn canu, yna mae angen i Aelodau a thystion adael yr ystafell drwy'r allanfeydd tân a dilyn cyfarwyddiadau gan y tywyswyr a staff. Dŷn ni ddim yn disgwyl larwm tân, felly yn amlwg mi fydd angen inni ymateb i hynny os digwyddiff e. Gaf i ofyn hefyd i Aelodau sicrhau bod yr holl ddyfeisiau symudol wedi eu distewi? A gaf i ofyn hefyd, cyn cychwyn, os oes unrhyw fuddiannau gan unrhyw un i'w datgan? Na. Diolch yn fawr iawn.
2. Sesiwn dystiolaeth gyda Dŵr Cymru Welsh Water
Ocê. Wel, y bore yma, mi fydd y pwyllgor yn cynnal sesiwn dystiolaeth gyda Dŵr Cymru. Mi fydd y sesiwn yn archwilio'n benodol y rhaglen drawsnewid a gyhoeddwyd gan y cwmni'n ddiweddar, yn ogystal â'r toriad hefyd i'r cyflenwad dŵr a brofwyd yn ddiweddar yng ngogledd Cymru. Rŷn ni'n croesawu atom ni gynrychiolwyr o Dŵr Cymru, wrth gwrs: Peter Perry, prif swyddog gweithredol—croeso, Peter—Sam James, hefyd, sy'n rheolwr gyfarwyddwr, masnachol, Dŵr Cymru, a Martin Driscoll, sy'n gyfarwyddwr pobl a chymorth busnes, Dŵr Cymru. Croeso i'r tri ohonoch chi. Mae rhyw awr a chwarter gyda ni ar gyfer y sesiwn yma. Felly, Peter, hoffech chi ddweud gair bach ar y cychwyn efallai, jest i roi bach o gyd-destun i ni? Diolch.