Finance Committee
- Dechrau
- 10:31
- Cyfraniadau
- 62
- Geiriau a lefarwyd
- 5,101
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd rhan gyhoeddus y cyfarfod am 10:31.
2. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croeso cynnes i'r cyfarfod o'r Pwyllgor Cyllid y bore yma, ac rydym yn falch iawn o fod yma. Mae'r cyfarfod yma mewn tair iaith. Mae gennym ni gyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg a bydd gennym ni BSL hefyd yn ystod y sesiwn ar y Bil dŷn ni'n mynd i fod yn ei drafod y bore yma. Bydd pob dim yn cael ei ddarlledu ar Senedd.tv. Rydyn ni wedi derbyn ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore, felly fe wnawn ni nodi'r rheini, a gofyn yn gyntaf a oes gan unrhyw un unrhyw fuddiannau i'w nodi. Mike Hedges.
Can I declare an interest? My sister is profoundly deaf, and also I've been supporting Mark with this Bill.