Ie, hynny ydy, roeddech chi'n trafod y defnydd o'r ieithoedd, ac yn sicr, mae'n her fawr i ni i gyd. Fel comisiynydd, rydyn ni wedi blaenoriaethu'r gweithle fel man pwysig lle mae cyfleoedd, yn amlwg, i ddefnyddio'r iaith Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau, ond i greu arferion cadarnhaol o safbwynt defnyddio'r Gymraeg, magu hyder pobl. Rydym yn gweld y byddai hynny'n gallu cael effaith gadarnhaol ar ddefnydd pobl y tu hwnt i'r gwaith hefyd ac ar benderfyniadau maen nhw'n eu gwneud o safbwynt y Gymraeg, o safbwynt trosglwyddo'r Gymraeg, efallai, ac o safbwynt defnyddio'r Gymraeg. Ond y rhan hollbwysig o hynny, fel y mae Séamas wedi nodi, ydy sicrhau bod gennym weithlu sydd â'r sgiliau yn y Gymraeg yn y man cyntaf.
Elfen arall rydyn ni'n ei blaenoriaethu ydy plant a phobl ifanc a phwysigrwydd datblygu arferion cadarnhaol o safbwynt defnyddio'r Gymraeg yn eu mysg nhw, sef y bobl yna a fydd yn mynd yn eu blaenau i'r gweithlu ac i ddefnyddio'r Gymraeg wedyn yn y gweithle.
Ond o safbwynt gwasanaethau, yn amlwg, fel sydd eisoes wedi cael ei nodi, mae'n bwysig sicrhau bod y gwasanaethau o ansawdd cystal â'r gwasanaethau Saesneg, bod pobl yn ymwybodol ohonyn nhw, eu bod nhw'n gwybod eu bod nhw yn gyson ar gael iddyn nhw. Mae hynny yn rhoi hyder ac yn gallu dylanwadu ar ddefnydd pobl o'r gwasanaethau. Mae'r gwaith rydyn ni yn ei gomisiynu'n flynyddol yn gofyn beth fyddai'n cynyddu defnydd pobl, ac mae hyder gan wybod eu bod nhw ar gael a'u bod nhw o ansawdd yn atebion rydyn ni'n eu cael yn gyson.
Felly, o safbwynt y pethau buasen ni eisiau eu cyflawni, dwi'n mynd nôl i'r hyn sydd wedi cael ei ddweud eisoes, mewn gwirionedd, sef gwaith o gwmpas y gweithlu, datblygu sut mae'r sector drydyddol, sector ôl-16, yn darparu gweithlu fydd yn gallu cwrdd â gofynion darparu gwasanaethau yn y Gymraeg. Ond hefyd rhan hollol greiddiol i hynny, sydd, yn amlwg, yn dod o'r Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, ydy sut rydym ni'n hyfforddi digon o athrawon yn y sector statudol i fod yn gallu darparu, i fod yn rhoi, sgiliau i bobl ar draws continwwm eang o sgiliau i fod yn mynd yn eu blaenau wedyn. Mae'r ddogfen cydweithio yn cyfeirio wedyn hefyd at drosglwyddo'r Gymraeg a'r Wyddeleg rhwng y cenedlaethau ac at gydweithio mewn cymunedau.
Felly, dwi'n meddwl yn y fan yna, petai modd i'r ddogfen, i'r datganiad ar y cyd, fod yn blaenoriaethu'r elfen gymunedol, yn ogystal, o ddatblygu cynllunio ieithyddol yn gymunedol—fel dwi wedi sôn eisoes, gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, sut mae'r safonau hybu sy'n cael eu hadolygu yn sgil y Ddeddf y Gymraeg ac addysg yn gallu cael eu defnyddio fel cerbyd i gynllunio ieithyddol yn lleol ar raddfa awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol. Felly, ie, mae'r sector addysg a gweithlu a datblygu cymunedol, buaswn i’n meddwl, yn feysydd y dylid canolbwyntio arnyn nhw.