Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, a gaf i eich llongyfarch ar eich penodiad a diolch hefyd am eich datganiad heddiw a dderbyniwyd saith munud yn unig cyn i'r cyfarfod llawn hwn ddechrau? Confensiwn, wrth gwrs, o ran rhannu datganiadau o flaen llaw y byddech wedi cwyno amdano pe baech wedi derbyn datganiad saith munud ynghynt.
Felly, rydym ni wedi cael 27 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru. Mae'n amlwg iawn bod pobl Cymru wedi pleidleisio dros newid, ac, wrth gwrs, nid y newid sydd wedi digwydd yw'r newid yr oedd fy mhlaid yn chwilio amdano. Byddem wedi hoffi Senedd wahanol iawn, ond mae'r pleidleiswyr wedi mynegi eu barn ac rwy'n gwybod eich bod chi'n angerddol am y wlad hon ac eisiau ei gwella. Nid wyf yn amau mai dyna yw eich ymrwymiad, ac yn wir ymrwymiad holl Aelodau'r Siambr hon, ni waeth beth fo'u teyrngarwch gwleidyddol. Ac er y byddwn yn anghytuno â chi ar lawer o faterion, rydym hefyd, ar y meinciau hyn, yn rhannu eich uchelgais i weld Cymru gryfach gyda gwasanaeth iechyd gwell, system addysg well gyda safonau uwch ac economi lawer mwy deinamig a chryf, gan greu'r swyddi â chyflog da sydd eu hangen ar bobl Cymru.
Felly, byddaf yn rhoi'r ymrwymiad hwn i chi, Brif Weinidog: pan fyddwch yn cyflwyno, a phan fydd eich cyd-Aelodau o'r Cabinet yn cyflwyno mesurau synhwyrol a fydd yn wirioneddol yn gwella bywydau pobl yma yng Nghymru, byddwn yn eich cefnogi. Ond rwyf eisiau bod yn glir hefyd, pan fyddwn yn teimlo bod yr uchelgeisiau hynny'n cael eu tanseilio gan benderfyniadau y mae eich Llywodraeth yn eu gwneud, byddwn yn rhoi pwysau arnoch i fod yn atebol, oherwydd dyna ein dyletswydd ni fel gwrthblaid gyfrifol yma yn y Senedd hon. Rydym eisiau eich dwyn i gyfrif yn drwyadl er mwyn cyflawni er budd pobl Cymru.
Nawr, yn y cyfnod cyn yr etholiad, ac rydych chi wedi cyfeirio ato heddiw yn eich datganiad, fe wnaethoch chi gyhoeddi'r cynllun hwnnw, y cynllun 100 diwrnod ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf o Lywodraeth Plaid Cymru. Wrth gwrs, mae'r cloc eisoes yn tician. Rydym eisoes wythnos i mewn ers i chi gael eich penodi'n Brif Weinidog. Ac, wrth gwrs, bydd y 100 diwrnod yn dod i ben yng nghanol mis Awst, yn ystod y toriad. Felly mae tywod amser eisoes yn dechrau rhuthro i lawr, a dim ond 90 diwrnod sydd gennych nawr i gyflawni'r cynllun 100 diwrnod hwn. Nawr, yn eich datganiad heddiw, fe wnaethoch chi gyfeirio at y GIG, rhywbeth wrth gwrs sy'n werthfawr i bob un ohonom, ac rydym ni i gyd eisiau iddo lwyddo a gwella. Nawr, yn y gorffennol, mae eich plaid yn y Siambr hon, wedi cefnogi ein galwadau am ddatgan argyfwng y GIG er mwyn i'r Llywodraeth ganolbwyntio ar gyflawni gwelliannau brys yn ein GIG, yn enwedig o ran gofal a thriniaeth mewn sefyllfa lle mae perygl i fywyd yn ein hadrannau brys oherwydd tanberfformiad y rheini. A gaf i ofyn i chi: a ydych chi'n bwriadu datgan argyfwng iechyd fel y gallwn ganolbwyntio ar y GIG o fewn y 100 diwrnod hyn rydych chi wedi cyfeirio atynt? Oherwydd ni wnaethoch chi gyfeirio ato yn benodol o ran argyfwng iechyd yn eich datganiad.
A gaf i hefyd ofyn i chi—? Roedd yna bethau eraill nad oeddech chi'n sôn amdanynt yn eich datganiad yr wyf yn credu y gallwn ddod o hyd i rywfaint o dir cyffredin yn eu cylch. Felly, er enghraifft, yn eich dogfen 100 diwrnod, rydych chi'n cyfeirio at gyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion. Nawr, mae hynny'n rhywbeth y mae ein plaid wedi bod yn galw amdano ers cryn amser. Rydym yn barod i'ch cefnogi i gyflawni'r uchelgais honno. Allwch chi ddweud wrthym: ydych chi'n barod i'w gyflawni? Beth ydych chi eisoes wedi'i wneud i sbarduno'r camau angenrheidiol er mwyn ei gyflawni? Fe wnaethoch chi sôn am adolygiad fformiwla cyllido llywodraeth leol—unwaith eto, rhywbeth sy'n gyffredin rhyngom. Rydym ni eisiau gweld y fformiwla ariannu honno yn cael ei hadolygu. Nid yw'n deg ar hyn o bryd, yn enwedig i awdurdodau lleol mewn cymunedau gwledig. Ac nid yw'n deg chwaith o ran y gwahaniaethau a welir o ran cyllid cenedlaethau, oherwydd mae'n hen ffasiwn. Nid yw'n addas i'r diben.
Fe wnaethoch chi grybwyll ynni adnewyddadwy yn eich ateb ar gynaliadwyedd yn gynharach. Un o'r pethau sy'n peri pryder ledled Cymru ar hyn o bryd, a bydd wedi cael ei ailadrodd i chi a llawer o'ch ymgeiswyr ar garreg y drws yn ystod yr ymgyrch etholiadol ddiweddar, yw'r cynigion ledled Cymru ar gyfer ffermydd solar a gwynt ar raddfa fawr yn ein cymunedau gwledig. A wnewch chi gychwyn, fel mater o frys, foratoriwm ar bob cais cynllunio newydd ar gyfer datblygiadau o'r fath er mwyn i ni allu amddiffyn ein tirweddau rhag diwydiannu diangen? Rwy'n credu bod hynny'n hynod o bwysig, ac mae angen i ni gael arwydd gennych chi ar unwaith.
A gaf i hefyd ofyn—? Nid oeddech chi'n cyfeirio yn eich dogfen 100 diwrnod at y diwydiant ynni niwclear. Efallai nad yw hynny'n syndod, o ystyried bod gan eich plaid farn amrywiol ar y mater penodol hwn, ond mae'n bwysig, wrth gwrs, yn eich etholaeth eich hun ac yn y gogledd-orllewin, ac rydym eisiau gweld swyddi newydd yn y diwydiant niwclear yn gyflym yn y cyfleuster newydd yn Wylfa yn arbennig, ac yn Nhrawsfynydd yn y dyfodol. Allwch chi ddweud wrthym pa gamau y mae eich Llywodraeth yn mynd i'w cymryd dros y 100 diwrnod nesaf er mwyn helpu i hwyluso'r swyddi hynny?
Ac os gallaf, wrth gloi, Lywydd, un o'r pethau eraill na wnaethoch chi sôn amdanynt, sy'n bwysig iawn, iawn i bobl ledled Cymru ac sy'n rhywbeth y maen nhw'n dal i bryderu amdano, yw gangiau grŵmio. Felly, rydym ni'n gwybod bod gangiau grŵmio wedi bod yn gweithredu yng Nghymru. Rydym ni wedi galw yn y gorffennol am ymchwiliad ledled Cymru i gangiau grŵmio. Rydym wedi cael trafodaethau a dadleuon yn y Siambr hon, rwy'n gwybod, ond, o ystyried eich bod bellach yn y Llywodraeth, a wnewch chi adolygu'r wybodaeth sydd ar gael i chi yn y Llywodraeth i benderfynu a yw hyn yn rhywbeth y gallwn hefyd gytuno arno a gweithio ar y cyd arno fel y gallwn gadw pobl ifanc agored i niwed, plant, ac yn enwedig ein merched, yn ddiogel? Diolch.