Culture, Communications, Cymraeg and Sport Committee
- Dechrau
- 13:29
- Cyfraniadau
- 7
- Geiriau a lefarwyd
- 452
- Lleoliad
- Committee Room 3 - Senedd
Crynodeb
Roedd rhan gyhoeddus y cyfarfod yn fyr ac yn weithdrefnol gan fwyaf. O dan y papurau i'w nodi, cododd Mike Hedges (Llafur Cymru) bryderon am fyfyrwyr ar gyrsiau a gynhelir gan is-ddarparwyr, a dywedodd y Cadeirydd, Lis McLean (Plaid Cymru), y byddai'r mater yn cael ei drafod yn nes ymlaen yn y cyfarfod. Yna symudodd y pwyllgor i sesiwn breifat i ystyried eitemau 4 i 7, gan gynnwys cyngor cyfreithiol cyfrinachol a busnes mewnol y pwyllgor.
Themâu
- Cyllid ac achredu cyrsiau a gynhelir gan is-ddarparwyr
- Gweddill y cyfarfod yn breifat ar gyfer cyngor cyfreithiol a busnes mewnol
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor yn y Senedd a thrwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 13:29.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croeso i gyfarfod Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon. Mae rôl y Cadeirydd ar gyfer y pwyllgor hwn wedi ei rhannu rhyngof fi a Mair Rowlands AS. Fi fydd yn cadeirio'r cyfarfod hwn. Mae eitemau cyhoeddus y cyfarfod hwn yn cael eu darlledu'n fyw ar Senedd.tv. Bydd Cofnod y Trafodion yn cael ei gyhoeddi yn ôl yr arfer. Mae'r cyfarfod yn ddwyieithog ac mae gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg ar gael.
Rydym ni wedi cael ymddiheuriadau gan Helen Jenner a Louise Emery. Rydym hefyd wedi cael ymddiheuriadau gan Mair Rowlands AS ar gyfer dechrau'r cyfarfod hwn. Mae'n bosib y bydd hi'n ymuno'n ddiweddarach. A oes gan unrhyw Aelod fuddiannau i'w datgan? Na.