Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd)
Cynigiodd Vaughan Gething (Llafur Cymru) y dylai'r Senedd gytuno y dylai Senedd y DU ystyried y rhannau o Fil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) sy'n dod o fewn pwerau'r Senedd. Gelwir hyn yn gynnig cydsyniad deddfwriaethol. Gwrthododd y Senedd y cynnig, felly ni roddodd ei chydsyniad.
- Pleidlais ar ddeddfwriaeth
A yw'r Senedd yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y rhannau o'r Bil sy'n dod o fewn pwerau'r Senedd.
Gwrthodwyd