Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru)
Gofynnodd Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) i'r Senedd gytuno y gall gyflwyno Bil Aelod, sef bil gan Aelod nad yw'n weinidog, ar Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Dywedodd y byddai'n annog defnyddio BSL ac yn gwella mynediad at addysg a gwasanaethau. Cytunodd y Senedd.
- Pleidlais ar ddeddfwriaeth
Ai cytuno y caiff Mark Isherwood gyflwyno ei Fil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru), fel y nodir yn y Memorandwm Esboniadol a gyhoeddwyd ar 31 Mai 2024.
Derbyniwyd