2 Chwefror 2026 , Legislation, Justice and Constitution Committee
Sesiwn dystiolaeth gyda'r Arglwyddes Brif Ustus
Prynhawn da. Rŷn ni i gyd yn ymwybodol, wrth gwrs, o'r ôl-groniad cyffredinol sydd yn nodweddu achosion troseddol drwy Gymru a Lloegr ar hyn o bryd, ond i ba raddau mae'r sefyllfa yng Nghymru yn well, yn waeth, neu ydy e yn fras yn dilyn yr un duedd rŷn ni'n…
2 Chwefror 2026 , Legislation, Justice and Constitution Committee
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant
Cadeirydd, hoffwn i jest bwyntio mas y cofrestriad sydd gen i: mae fy mhartner yn aelod o'r farnwriaeth.
29 Ionawr 2026 , Finance Committee
Gwrandawiad Cyn Enwebu - Archwilydd Cyffredinol Cymru
Ocê. Diolch yn fawr.
29 Ionawr 2026 , Finance Committee
Gwrandawiad Cyn Enwebu - Archwilydd Cyffredinol Cymru
Yn olaf gen i, Cadeirydd, felly, rydych chi wedi cyffwrdd â'r cwestiwn yn barod o'r trosglwyddiad, yr handover, o un archwilydd i'r un newydd, ond fel corff hefyd mae gan Archwilio Cymru amryw o strategaethau a rhaglenni eisoes ar y gweill. Felly, sut ydych…
29 Ionawr 2026 , Finance Committee
Gwrandawiad Cyn Enwebu - Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae Archwilio Cymru yn sefydliad mwy, dwi'n credu, na'r awdurdod rydych chi'n ei arwain ar hyn o bryd—tua 300 o staff. Pa heriau mae'r newid hwn mewn maint a chymhlethdod yn ei greu i chi, a sut byddech chi'n eu rheoli?
29 Ionawr 2026 , Finance Committee
Gwrandawiad Cyn Enwebu - Archwilydd Cyffredinol Cymru
Iawn, diolch. Gan fod Archwilydd Cyffredinol Cymru yn brif weithredwr Archwilio Cymru, ac yn gweithio o fewn trefniadau llywodraethu sefydledig, beth yw eich cynllun i feithrin perthynas waith effeithiol gyda chadeirydd a bwrdd Archwilio Cymru, yr uwch dîm…
29 Ionawr 2026 , Finance Committee
Gwrandawiad Cyn Enwebu - Archwilydd Cyffredinol Cymru
Ydy methiant o fewn terfynau fframwaith gwerthuso cadarn yn rhan annatod o'r broses o arloesi a dysgu?
29 Ionawr 2026 , Finance Committee
Gwrandawiad Cyn Enwebu - Archwilydd Cyffredinol Cymru
Diolch yn fawr. Mae archwilio yn hanfodol i ddiogelu arian cyhoeddus a hyder y cyhoedd. Ond mae Cymru hefyd angen mwy o arbrofi a chynlluniau peilot i wella gwasanaethau a chynyddu cynhyrchiant. Fel archwilydd cyffredinol, sut fyddech chi’n sicrhau bod…
29 Ionawr 2026 , Finance Committee
Gwrandawiad Cyn Enwebu - Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae’r amseroldeb wedi bod yn gwaethygu—dwi’n credu fy mod i’n gywir yn dweud hynny—dros y blynyddoedd diwethaf. I ba raddau y gallwch chi roi sicrwydd i’r pwyllgor ar sail yr hyn rŷch chi newydd ei ddweud? Ydych chi’n credu y bydd modd cynnal safonau…
29 Ionawr 2026 , Finance Committee
Gwrandawiad Cyn Enwebu - Archwilydd Cyffredinol Cymru
Diolch yn fawr, Cadeirydd, a bore da i chi. Gaf i aros gyda'r cwestiwn yma o brofiad o gyfrifo o fewn y sector cyhoeddus? Yn ei araith yn ddiweddar ar gyfrifon llywodraeth leol, nododd archwilydd cyffredinol presennol Cymru bod dim ond 56 y cant o gyrff yn y…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Cwnsler Cyffredinol, a fyddech chi'n derbyn—ac mae hyn yn berthnasol i'ch cyfrifoldebau chi—o ystyried popeth yr wyf i wedi ei rannu, bod y driniaeth ddeddfwriaethol o'r mater hynod sensitif, cymhleth hwn, sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc, a grŵp…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Ond, Cwnsler Cyffredinol, y chi sy'n gyfrifol, onid e, am ymgyfreithiad sy'n ymwneud â Gweinidogion Cymru? A wnewch chi ddweud wrthym ni o leiaf pa bryd, o ystyried bod yr Uchel Lys wedi cofnodi bod y Senedd a'r cyhoedd wedi derbyn disgrifiad anghywir…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Diolch, Llywydd. Cwnsler Cyffredinol, fe wrthododd yr Uchel Lys, yn ei ddyfarniad ar achos ATB yn erbyn Gweinidogion Cymru, a roddwyd ar 25 Tachwedd y llynedd, ar ôl gwrandawiad cychwynnol ar 8 Hydref, roi caniatâd i adolygu deddfwriaeth eilaidd gan y Senedd…
22 Ionawr 2026 , Public Accounts and Public Administration Committee
Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
Okay, thank you.
22 Ionawr 2026 , Public Accounts and Public Administration Committee
Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
Ond, ar gyfer mater sensitif fel yna, byddech chi wedi disgwyl iddyn nhw roi gwybod i chi pe baen nhw wedi is-gontractio elfennau o'r gwaith i rywun arall. Ydw i'n iawn i gymryd hynny?
22 Ionawr 2026 , Public Accounts and Public Administration Committee
Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
Yes.
22 Ionawr 2026 , Public Accounts and Public Administration Committee
Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
Jest un peth olaf hefyd: ydych chi'n gwybod a oedd y cwmni Teacher Booker hefyd wedi is-gontractio rhan o'r gwaith o ran adnabod hunaniaeth i gwmni arall? Ydych chi'n gallu cadarnhau hynny neu beidio?
22 Ionawr 2026 , Public Accounts and Public Administration Committee
Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
Jest i fi ddeall, sut oedd e wedi digwydd? Oeddech chi'n glir beth oedd y disgwyliadau, hynny yw, i'r gwasanaeth gael ei gynnig yn unol â safonau, a doedd y cwmni, os taw'r cwmni yn benodol rŷn ni'n cyfeirio ato fe fan hyn, neu unrhyw ddarparwr arall, ddim…
22 Ionawr 2026 , Public Accounts and Public Administration Committee
Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
A gaf i jest godi, yn olaf, cwestiwn penodol? Roedd Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi adroddiad beirniadol iawn ar y peilot, gan nodi methiannau cydymffurfio â safonau'r Gymraeg a diffygion monitro gan Lywodraeth Cymru, ac, yn yr adroddiad hynny, yn y…
22 Ionawr 2026 , Public Accounts and Public Administration Committee
Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
Ble ŷn ni nawr, te, o ran y polisi? Hynny yw, oes yna dal ymrwymiad i symud tuag at system sydd ddim er elw, neu ydy hwnnw ddim yn ymrwymiad polisi erbyn hyn?
22 Ionawr 2026 , Public Accounts and Public Administration Committee
Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
Ond mae yna allu deddfwriaethol gyda Llywodraeth Cymru—mae yna allu deddfwriaethol gyda Llywodraeth Cymru i newid hynny, onid oes e? Mae gan Lywodraeth Cymru yr hawl, pe bai'n dal yn fwriad polisi, i ddatrys y rhwystr hynny.
22 Ionawr 2026 , Public Accounts and Public Administration Committee
Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
Gawn ni droi at y penderfyniad, felly, i gau'r cynllun peilot? Roedd y pwyllgor yma wedi derbyn tystiolaeth ar un adeg fod y peilot yn mynd yn dda. Allwch chi esbonio pam wnaethoch chi wedi hynny symud mewn termau mwy manwl nag ŷch chi wedi'i wneud? Hynny yw…
22 Ionawr 2026 , Public Accounts and Public Administration Committee
Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
Gawn ni droi nawr at y gronfa gyflenwi genedlaethol i Gymru, ac yn benodol y peilot yn Ynys Môn? Mi oedd hyn yn deillio, wrth gwrs, y syniad, o'r cytundeb cydweithio—efallai dylwn i roi rhyw fath o fuddiant ar y record—a'r bwriad polisi oedd symud tuag at…
22 Ionawr 2026 , Public Accounts and Public Administration Committee
Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
Allwch chi esbonio pam yn union yr oedd angen diweddaru'r canllawiau ar anfonebau, gan gynnwys taliadau yswiriant cenedlaethol, yn y cyd-destun yma?
22 Ionawr 2026 , Public Accounts and Public Administration Committee
Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
Roeddech chi wedi cyfeirio, yn gynharach, at yr Arolygiaeth Safonau Asiantaethau Cyflogaeth. A oes yna unrhyw faterion y maen nhw wedi'u codi, neu awdurdodau lleol ac ysgolion, y byddwch chi hefyd yn plethu i mewn i ddyluniad y fframwaith newydd?