3 Mawrth 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n ddrwg iawn gen i, Prif Weinidog, na wnaethoch chi fynegi eich cefnogaeth uniongyrchol i'r gynghrair filwrol sydd gennym ni gyda'r Unol Daleithiau, yn wahanol i Brif Weinidog Canada a Phrif Weinidog Awstralia. Ond rwyf i eisiau dymuno pob lwc i bawb yn y…
3 Mawrth 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, a gaf i ddechrau drwy gysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru o ran diogelwch dinasyddion Prydeinig o Gymru sydd yn y dwyrain canol ar hyn o bryd? Mae ein calonnau yn mynd allan iddyn nhw ac rydym ni'n…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes)
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gyfeirio at fy nghyfraniad yn gynharach. Y pwynt roeddwn i'n ei wneud yw ei bod yn amhosibl datgysylltu dadl am yr egwyddor o'r cymalau rydym yn eu trafod heddiw. Dyna'r pwynt roeddwn i'n ei wneud. A dydw i ddim yn credu ei bod…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes)
Fe ddywedoch chi fod noddwyr y Bil eisiau parchu'r Senedd a safbwyntiau'r Senedd, ond, wrth gwrs, pleidleisiodd y Senedd hon yn erbyn yr egwyddor o farw â chymorth mewn dadl flaenorol, ac eto, yn amlwg, mae'r Bil hwn yn dal i symud ymlaen gyda Chymru fel rhan…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes)
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes)
Rwy'n credu, os yw'r Senedd hon yn dymuno deddfu ar y materion hyn yn y dyfodol, yna mae angen iddi allu gwneud hynny gyda'r wybodaeth lawn o'i blaen, gan wybod yn llawn beth mae'r Bil yn ei gyfanrwydd yn ei ddweud mewn gwirionedd, yn fanwl, fel y gallwn ni…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes)
Gwnaf, byddaf yn hapus i ildio.
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes)
Rwy'n codi heddiw i siarad yn erbyn y cynnig hwn. Rwy'n gwybod bod rhai sylwadau wedi'u gwneud gyda bwriadau da iawn, yn ceisio datgysylltu trafodaethau ar egwyddor y Bil hwn gyda'r drafodaeth ar y cymalau penodol sydd o'n blaenau, ond rwy'n ofni ei bod hi'n…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Trefnydd, rwy'n galw am ddatganiad gan y Gweinidog yn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am iechyd y cyhoedd. Rwyf i wedi cysylltu â llawer o etholwyr yn ystod y misoedd diwethaf ynglŷn â'r posibilrwydd y bydd cyfleusterau cyhoeddus yn cael eu cau yn eu…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Felly, a gaf i ofyn i chi—? A gaf i ofyn hyn i chi: os nad ydych chi wedi gallu trwsio ein GIG ar ôl 27 mlynedd, a ydych chi'n derbyn nad ydych chi byth yn mynd i allu ei drwsio, ei bod hi'n bryd symud ymlaen ac ethol Llywodraeth Geidwadol i Gymru ym mis Mai?
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwyf i wrth fy modd o glywed na allech chi ddod o hyd iddo, Llywydd. [Chwerthin.] Wrth fy modd o glywed hynna. Mae'n wych cael y dechnoleg newydd hon yn y Siambr. Nid yw'n fater o'r gogledd yn unig, nid y gorllewin yn unig, Prif Weinidog—mae gennym ni…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Byddwn yn eich atgoffa—byddwn yn eich atgoffa—Prif Weinidog eich bod chi wedi addo cael gwared ar yr arosiadau dwy flynedd hyn erbyn diwedd mis Mawrth 2023. Fe wnaethoch chi fethu â'i wneud. Fe wnaethoch chi fethu â'i wneud erbyn Ebrill 2024. Fe wnaethoch chi…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Prif Weinidog, gyda pharch, chi sy'n gyfrifol am y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr nad yw pobl yn cael eu rhoi mewn perygl oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw deithio'n rhy bell mewn sefyllfaoedd brys sy'n peryglu eu…
24 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a gaf i gysylltu fy hun â'ch sylwadau o ran y pedair blynedd ers dechrau'r rhyfel yn Wcráin? Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn sefyll ysgwydd yn ysgwydd gyda phobl Wcráin yn wyneb ymosodiad anghyfreithlon Vladimir Putin. Слава…
10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Trefnydd, fe hoffwn i alw am ddau ddatganiad heddiw, os caf i, y cyntaf oddi wrth y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant o ran gwasanaethau niwed gamblo. Rydym ni'n gwybod y bydd yr ardoll gamblo yn dod i Gymru, cyfran o hynny, ar gyfer cefnogi gamblwyr…
10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae gen i ofn, Prif Weinidog, bod gwneud yn well na dweud. Byddwch yn gwybod ein bod ni wedi gohebu; gofynnais i chi gyfarfod ag Emily Vaughn er mwyn trafod ei phrofiadau. Fe wnaethoch chi wrthod gwneud hynny, ond fe wnaethoch chi ddweud y byddai'n cael ei…
10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n braf cael rhywfaint o eglurder o leiaf. Rydych chi bellach yn cowtowio, wrth gwrs, i Syr Keir Starmer yn yr un modd ag y gwnaeth ef gowtowio i'r Tsieineaid yn ystod ei ymweliad diweddar. Yr hyn yr wyf i eisiau siarad amdano yw'r dioddefwyr hynny. Fe…
10 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Prif Weinidog, mae'n berffaith amlwg i bawb bod eich datganiad o gefnogaeth heddiw i Brif Weinidog y DU yn wenieithus. Nid yw'n dweud, ac nid ydych chi wedi dweud ar unrhyw adeg, fod gennych ymddiriedaeth lawn ym Mhrif Weinidog y DU na'i arweinyddiaeth. Wrth…
3 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydych chi'n dweud eich bod chi eisiau ysgrifennu pennod newydd; rydych chi, a bod yn onest, yn ysgrifennu eich llith goffa eich hun. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ei weld wythnos ar ôl wythnos, gyda'r penderfyniadau yr ydych chi'n eu gwneud. Gadewch i ni edrych ar…
3 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wnaethoch chi ddim rhoi ateb gonest i ni. Gofynnais i chi am 'gwnewch' neu 'na wnewch': a ydych chi'n mynd i godi trethi ai peidio? Yna fe aethoch chi ymlaen i sôn am y record—record honedig—y Llywodraeth Lafur yn San Steffan, sydd wedi ein beichio â threthi…
3 Chwefror 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ym mis Ionawr, dim ond y mis diwethaf, fe wnaeth eich Llywodraeth ddefnyddio ei chytundeb gyda Phlaid Cymru i wthio cyllideb drwodd sy'n cadw Cymru fel un o'r rhannau treth uchaf o'r Deyrnas Unedig hon. Ers dros chwarter…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cyllideb Derfynol 2026-27
Pam nad ydych chi'n gwneud ymyriad?
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydych chi'n siarad am bwysigrwydd swyddi, ac rwy'n cytuno â chi, mae swyddi yn bwysig, ond rydych chi'n methu yn hynny o beth, onid ydych chi? Mae gennym ni'r diweithdra uchaf yn y Deyrnas Unedig. Mae wedi cynyddu bron i 60 y cant ers ethol Llywodraeth Lafur…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wnaethoch chi ddim ateb fy nghwestiwn, ond nid yw hynny'n syndod, oherwydd mae hi yr un fath bob wythnos. Rydych chi wedi honni bod mynnu mwy o bwerau gan Lywodraeth y DU yn ffordd o niwtraleiddio bygythiad o chwalfa'r DU. Ond mewn gwirionedd, y cwbl rydych…
27 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Mae'n Ddiwrnod Cofio'r Holocost heddiw, wrth gwrs, pan fyddwn ni'n dod at ein gilydd i goffáu bywydau'r 6 miliwn o ddynion, menywod a phlant diniwed a lofruddiwyd dim ond oherwydd eu bod nhw'n Iddewon. Ar adeg pan fo pla gwrthsemitiaeth, mae…