21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Felly, a gaf i gadarnhau hyn? Rydych chi'n gwrthod cydnabod bod yna argyfwng, ydych chi? Os nad ydych chi'n credu bod rhywbeth wedi torri, ni wnewch chi byth lunio cynllun i fynd i'r afael ag ef. Rydych chi'n beio hyn ar arian, felly pam gwneud yr addewid yn…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Wel, ni wnaethoch ateb y cwestiwn a ofynnais i chi, sef: a yw hyn yn symptom o GIG sydd mewn argyfwng? Rwy'n credu ei fod. Nid wyf yn credu bod GIG Cymru’n gweithio'n iawn. Yn sicr, ni weithiodd yn iawn i Iris, ac mae gan bob un ohonom enghreifftiau yn ein…
21 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ysgrifennydd y Cabinet, y mis diwethaf, arhosodd menyw 90 oed o Wyesham yn sir Fynwy, Iris Morgan, am fwy na 32 awr am ambiwlans ar ôl torri ei chlun yn ei chartref. Yn yr amser hwnnw, aeth yn gynyddol ddryslyd, datblygodd haint difrifol, a dywedwyd wrthi gan…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydych chi'n dweud eich bod chi'n gwario 12 y cant yn fwy fesul claf yng Nghymru na dros y ffin yn Lloegr, ond rydych chi'n derbyn gan Lywodraeth y DU, drwy'r grant bloc, 20 y cant yn fwy, ac rydych chi'n dewis peidio â buddsoddi hwnnw yn ein gwasanaeth…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ond nid yw cynlluniau sy'n eistedd ar silffoedd yn casglu llwch yn gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad. Fel yr ydych chi a fi'n gwybod, mae triniaeth brydlon yn bwysig iawn i gleifion i sicrhau'r canlyniad gorau posibl iddyn…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gall cleifion canser yng Nghymru gael mynediad prydlon at y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw?
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
A gaf i alw am ddatganiad, Trefnydd, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar fynediad at sganiau PET a sganiau CT ar gyfer cleifion yn y gogledd? Fe gefais fy rhybuddio gan etholwyr am y ffaith bod y cytundeb a oedd yn weithredol gyda…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mwy o nonsens a rwtsh fyth gan Brif Weinidog Cymru. Mae gennym ni ddiweithdra wedi cynyddu ers i Lafur ddod i rym, ac rydym ni wedi cael prisiau ynni yn cynyddu hefyd, yn llawer uwch na chyfradd chwyddiant. Mae'r gwirionedd, Prif Weinidog, yn eglur iawn i…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae gennych chi'r digywilydd-dra i ymffrostio yn eich record o ran tai pan fo'n gwbl anobeithiol. Y tro diwethaf yr oedd y Ceidwadwyr yn gyfrifol am adeiladu tai yng Nghymru, roeddem ni'n adeiladu tai ar ddwywaith y gyfradd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr. Prif Weinidog, ar droad y ganrif, roedd chwech o bob 10 o bobl 25 i 34 oed yn berchen ar eu cartref eu hunain. Ond, ers hynny, mae lefelau perchnogaeth cartref ymhlith y grŵp oedran hwnnw wedi gostwng yn ddramatig o draean. Eich Llywodraeth…
29 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol
A gaf i—? Hoffwn nodi hyn yn glir, os caf wneud ymyriad. Rwy'n ddinesydd Gwyddelig. Mae fy mam yn Wyddeles. Mae tri o fy neiniau a theidiau'n Wyddelod. Rwy'n gwybod ei bod yn ymddangos fel pe baech chi eisiau gwahaniaethu yn fy erbyn ar sail fy ninasyddiaeth…
29 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol
Rwy'n falch o fod yn ddinesydd Gwyddelig, yn ogystal â dinesydd Prydeinig, ac rwy'n falch o fod yn Gymro hefyd. Fe nodoch chi nad oes unrhyw fudd wedi dod. Onid ydych chi'n derbyn bod pobl yn fyw yng Nghymru heddiw—gan gynnwys yn eich etholaeth chi, lle…
29 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar arolygon barn?
29 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol
Edrychwch, rwyf i o blaid Ewrop, ond nid wyf o blaid yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n rhaid imi ddweud eich bod wedi nodi dau fethiant—y methiant economaidd a welsom yng Nghymru a'r cynnydd ar dlodi plant nad ydym wedi'i wneud yng Nghymru. Methiannau'r…
29 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol
Eto i gyd, rydych chi am ddatgymalu'r undeb llwyddiannus sy'n gweithio i Gymru ac sydd wedi gweithio ers canrifoedd lawer i Gymru, ac nid i gyflawni Cymru annibynnol, fel rydych chi'n aml yn ei honni—fe dderbyniaf eich ymyriad mewn eiliad—ond i glymu Cymru yn…
29 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol
Dywedais yn glir fy mod am adael y farchnad sengl, a dywedwyd gan wrthwynebwyr Brexit, pe baech chi'n gwneud hynny, y byddech chi'n gadael y farchnad sengl. Felly, nid wyf yn siŵr am beth rydych chi'n sôn. Rwy’n rhyfeddu bod gan Blaid Cymru wyneb i gynnal y…
29 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant ar y papur trefn yn enw Paul Davies. A gaf i ddechrau drwy ddweud bod y dydd Gwener hwn, i mi, yn ddathliad o ddemocratiaeth? Oherwydd wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, fe wnaeth Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU…
29 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Ysgrifennydd y Cabinet, bydd Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr bob amser yn dathlu darbodusrwydd ac effeithlonrwydd, ac rydym yn croesawu'r cynllun buddsoddi i arbed, a bob amser wedi'i groesawu. Fe roesoch syniad o gyfanswm y buddsoddiadau a wnaed, ond yr…
22 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Gwrandewais yn ofalus iawn ar eich ymateb am yr adnoddau ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Un o'r pryderon sydd wedi cael eu codi gyda mi yng ngogledd Cymru yw'r amseroedd aros ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol. Fe wyddom o dystiolaeth a…
22 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
8. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol? OQ62181
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Tarfu ar y cyflenwad dŵr yng Nghonwy
Felly, byddwn yn gofyn i chi—byddwn yn gofyn y ddau beth hynny i chi—beth ydych chi'n mynd i'w wneud am y cartrefi mewn parciau yn y dyfodol a'r ysgolion, gan sicrhau eu bod yn flaenoriaethau, a sicrhau bod y prif weithredwr yn cymryd y sefyllfa hon yn ddigon…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Tarfu ar y cyflenwad dŵr yng Nghonwy
Rwy'n gwerthfawrogi hynny. Dim ond dau bwynt arall yr hoffwn i eu gwneud, ac y byddaf yn eu gwneud yn fyr, oherwydd rwy'n gwybod bod llawer o bobl wedi siarad. Safleoedd cartrefi mewn parciau, Ysgrifennydd Cabinet—. Felly, safleoedd cartrefi mewn parciau yw…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Tarfu ar y cyflenwad dŵr yng Nghonwy
Diolch, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad, ac fe hoffwn i gofnodi fy niolch i chi ac i Ysgrifennydd y Cabinet dros ogledd Cymru am gysylltu i geisio deall yn well beth oedd yn digwydd ar lawr gwlad yn fy etholaeth i, ac mae'n rhaid i mi ddweud, roedd yn…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Diwrnod Cofio’r Holocost 2025
A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich datganiad heddiw? Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn yma yn y Senedd ac ar draws Cymru i atgoffa pobl lle y gall casineb a gwahaniaethu arwain yn y pen draw. Ac, o gofio…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n amlwg iawn i mi, a phawb yn y Siambr hon ac unrhyw un sy'n gwylio, eich bod chi'n gwrthod cydnabod bod argyfwng yn ein GIG. Oni bai eich bod chi'n cydnabod bod argyfwng yn ein GIG, ni fyddwn ni byth yn cael cyfle i ymdrin â'r argyfwng hwnnw a datrys y…