24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Mae gwneud yn siŵr fod y fformiwla llywodraeth leol yn adlewyrchu'n ddigonol y gwahanol nodweddion sydd gan ein gwahanol awdurdodau lleol yn bwysig i'r Llywodraeth hon, a gwneud yn siŵr ein bod yn deall yn iawn gan lywodraeth leol a chynghorau sut y mae'r…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Mae Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio yn bwrw ymlaen ag adolygiad o'r fformiwla cyllido llywodraeth leol mewn partneriaeth â llywodraeth leol.
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Dwi eisoes, fel Gweinidog cymharol newydd o hyd, wedi cychwyn ar y gwaith o drafod sut y gallwn ni fynd ati i adolygu'r trothwy gosod 182 diwrnod ac i feddwl a oes angen eithriadau newydd cenedlaethol i'r polisi yma. Dwi'n gwybod bod y polisi heb landio yn y…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Roedd ein maniffesto yn cynnwys ymrwymiad i barhau i adolygu’r trothwy gosod o 182 diwrnod ac i greu eithriadau newydd rhesymol lle na fyddai llety hunanddarpar yn gymwys i fod yn gartref preifat. Fe fyddaf i’n amlinellu rhagor o fanylion am ein cynigion ar…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Yn sicr, gallaf ymrwymo i ddwysáu'r trafodaethau hynny. Rwy'n gobeithio y gall Llywodraeth y DU hefyd ymrwymo i'r lefel honno o ddwyster o ran y trafodaethau y mae angen inni eu cael. Mae angen inni ddod i sefyllfa rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Mae sicrhau cyllid teg ar gyfer rheilffyrdd Cymru a mynd i'r afael ag anghyfiawnder HS2 yn flaenoriaeth bwysig iawn i ni. Mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi cydnabod nad yw'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru wedi derbyn digon o gyllid yn y gorffennol…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Fe fyddwch chi'n gwybod mai'r Gweinidog dros fenter ac ynni sydd â chyfrifoldeb dros faterion ynni adnewyddadwy a seilwaith yng Nghymru. Bydd y Gweinidog, sy'n digwydd bod yn un o'r Aelodau dros yr ardal rydych chi hefyd yn ei chynrychioli, yn unol ag…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Gallaf. Yn sicr, ni ddylai'r rhai lleiaf tebygol o allu fforddio talu orfod talu'r gost am benderfyniadau gwael, a'r bobl sydd wedi tramgwyddo yn y lle cyntaf a ddylai ei thalu. Yn ein maniffesto, rydym wedi ymrwymo i sefydlu bwrdd pontio teg i arwain y…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Wel, yn sicr, nid drwy fesurau ariannol syml yn unig, a dywedaf hynny fel y Gweinidog Cyllid. Fel y dywedais mewn ymateb cynharach, mae'r cyfrifoldeb i gyflawni ein hamcanion sero net yn gyfrifoldeb sy'n effeithio ar holl Weinidogion ac adrannau'r…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Er mai cyfrifoldeb y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd yw'r cynllun ar gyfer Cymru sero net, mae'n ymrwymiad i'r Llywodraeth gyfan. Bydd penderfyniadau buddsoddi strategol yn cael eu gwneud ar y cyd, felly, wrth i ni baratoi ar gyfer…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Diolch am y cwestiwn yna eto ar Geredigion Penfro. Wrth gwrs, wrth i ni ymrwymo i asesu nifer fawr o'r agweddau ar y polisïau sy'n effeithio ar fusnesau ac ar y sector tai—fel y dreth gyngor, fel ardrethi busnes, fel y rheol 182—fe fyddwn ni'n gwneud hynny…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Ie, diolch am y cwestiynau yna yn ychwanegol. Fel rŷch chi'n amlinellu, mae cael y balans yn iawn ar rai o'r polisïau yma yn bwysig iawn, fel nad yw'r pwysau ar y sector lletygarwch a'r sector hunanddarpar yn ormodol i ganiatáu iddyn nhw gario ymlaen yn eu…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Un peth sy'n fantais o fod wedi sefyll etholiad yn yr un etholaeth â Paul Davies yw fy mod i hefyd wedi pigo lan yr un sylwadau hynny o'r sector lletygarwch a'r sector twristiaeth. Felly, mae yna nifer o agweddau ar waith y Llywodraeth yma—rhai dwi'n gyfrifol…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Mae trethi lleol yn helpu i dalu am wasanaethau pwysig ledled Cymru, gan gynnwys yng Ngheredigion Penfro. Bydd y Llywodraeth hon hefyd yn diwygio ardrethi busnes i gefnogi busnesau'r stryd fawr yn well ac archwilio ffyrdd o wneud y dreth gyngor yn decach.
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Wel, rydych chi wedi codi llawer o'r ystyriaethau y mae'r Llywodraeth yn edrych arnynt ar hyn o bryd, pan fo'n ystyried ei safbwynt ar yr ailbrisiad ac unrhyw newidiadau pellach i'r dreth gyngor. Rydym wedi ymrwymo fel Llywodraeth i edrych i weld sut y gellir…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ystyried a fydd yn gwneud hynny ai peidio.
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Cyn lleied â phosib, byddwn i'n dweud. Dwi eisiau gwario arian y Llywodraeth yma ar ganlyniadau sy'n deillio allan o'r gwaith paratoi yma. Dwi'n siŵr y byddwch chi'n rhannu gyda fi yr awydd, wrth i ni ddatblygu polisïau newydd neu weithredu polisïau presennol…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Na. O un gyllideb atodol, sy'n ymwneud â rhan o'r addasiad yn ystod y flwyddyn o ddyraniadau gwariant y Llywodraeth hon, ni ddylai pobl Cymru nac unrhyw un yn y Siambr hon, am eiliad, ddehongli hynny fel diffyg ymrwymiad i newid hinsawdd ac i ddilyn ein…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Rydym am weld cydraddoldeb rhyngom ni a'r Alban o ran y pwerau a'r liferi sydd gennym. Nid yw benthyca darbodus yn beth drwg i unrhyw wlad, i unrhyw gwmni. Mae'n caniatáu i Lywodraeth fuddsoddi. Mae buddsoddiad o'r fath yn rhan o sbarduno ein heconomi ac o…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Mae'n ddiddorol, ac rwy'n credu y bydd Mark Drakeford yn ei ystyried yn fwy diddorol byth, mai ei brif gefnogwyr yn y Siambr hon, yn y seithfed Senedd, yw Reform. Rwy'n siŵr y bydd yn croesawu hynny. Ni chawsom fynediad llawn ac agored at y llyfrau, ac mae'n…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Nawr, fe ddechreuoch chi'n dda ac yna fe ofynnoch chi un o'r cwestiynau anoddaf y byddaf yn eu cael fel Gweinidog—cymharu fy hun â Mark Drakeford. Mae gennyf barch enfawr tuag ato, fel y gŵyr, ac fel y gŵyr y Siambr hon. Mae lefel o wirionedd yn ein…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Mae'r polisi hwn bellach yn cael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol. Eu dewis nhw fydd cyflwyno'r ardoll ymwelwyr yn eu hardaloedd neu beidio, ac mae gofyn i unrhyw awdurdod lleol sydd â diddordeb mewn cyflwyno ardoll ymwelwyr gynnal yr asesiadau a nodwyd…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Cafodd asesiad effaith rheoleiddiol ac asesiad effaith integredig eu cyhoeddi ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y Senedd ddiwethaf. Mater i'r awdurdodau lleol yw penderfynu nawr a ydyn nhw am gyflwyno ardoll yn eu hardaloedd, yn seiliedig ar eu hasesiadau eu…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Wel, o ganlyniad i'r adolygiad o degwch a'r dadansoddiad seiliedig ar anghenion o fformiwla Barnett o 2016 ymlaen, fe wyddom fod hynny wedi bod o fudd i'r pwrs cyhoeddus yng Nghymru. Ond fel y dywedais eisoes, dadansoddiad y Llywodraeth hon, fel y Llywodraeth…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Rydych chi bron â bod wedi ateb eich cwestiwn eich hun yn eich cwestiwn. Y gwahaniaeth i bobl yn y Fflint a Wrecsam drwy setliad cyllido teg, yw y byddai cael y £850 miliwn nad yw'n ei gael ar hyn o bryd o'r adolygiad cyfredol o wariant y soniais amdano…