15 Gorffennaf 2021 , Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
Cylch gorchwyl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Ymlaen â ni felly at yr ail eitem, sef nodi papur ar gylch gorchwyl y pwyllgor yma. Ydy Aelodau'n hapus i nodi'r papur? Diolch yn fawr iawn.
15 Gorffennaf 2021 , Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croeso i chi i gyd i gyfarfod cyntaf Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y chweched Senedd. Croeso i'r Aelodau sydd yn ffurfio'r pwyllgor yma i'n cyfarfod cyntaf ni. A gaf i yn ffurfiol ddiolch am y fraint o gael cadeirio'r pwyllgor hefyd? Dwi'n…
13 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Paratoi’r Gyllideb: Blaenoriaethau ar gyfer 2022-23
Gaf i groesawu'r ddadl yma, a diolch i'r Gweinidog, wrth gwrs, am gynnig y ddadl yma yn absenoldeb y ffaith bod y Pwyllgor Cyllid heb ei sefydlu mewn pryd i allu gwneud hynny? Y peth cyntaf dwi eisiau dweud a'r hyn dwi eisiau gwneud yw jest ategu'r hyn a wnes…
13 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2021-22
A gaf i ddechrau drwy, efallai, gydnabod yr amgylchiadau heriol mae'r Llywodraeth wedi'u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf yma, gyda diffyg adolygiadau gwariant, diffyg sicrwydd o safbwynt y cyllid sy'n dod, a'r ariannu ad hoc yn dod o gyfeiriad San…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch, Llywydd. Yr hyn dwi eisiau ei wneud yw tynnu sylw'r Gweinidog at gynlluniau sydd ar droed i greu llwybr beicio o Ruthun i Ddinbych ar hyd dyffryn Clwyd. Mi fyddai'r llwybr yma, wrth gwrs, yn cysylltu'r ddwy dref i drigolion lleol, o safbwynt teithio…
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch i chi am eich ateb. Dwi eisiau tynnu eich sylw chi at ymgyrch sydd ar droed i roi cynlluniau ar waith i greu llwybr beicio o Ruthun i Ddinbych ar hyd Dyffryn Clwyd. Nawr, byddai hynny nid yn unig, wrth gwrs, yn cysylltu'r ddwy dref i drigolion lleol—
7 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hybu twristiaeth yn sir Ddinbych? OQ56749
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dwi'n falch eich bod chi'n sôn am sicrhau dyfodol cydnerth i'r sector, oherwydd wrth gwrs mae twristiaeth yn sector gwbl allweddol i ni yng ngogledd Cymru, fel mae e mewn rhannau eraill, wrth gwrs. Ond mae cael y cydbwysedd cywir yna rhwng twristiaid sy'n dod…
6 Gorffennaf 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynaliadwyedd y sector twristiaeth yng ngogledd Cymru? OQ56750
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dau gais sydd gen i i'r Llywodraeth, yn ymwneud â'r un pwnc, a dweud y gwir. Yn y lle cyntaf, buaswn yn gofyn yn garedig i'r Trefnydd i sicrhau bod y Prif Weinidog yn ysgrifennu at Gymdeithas Bêl-droed Cymru i longyfarch carfan pêl-droed cenedlaethol Cymru ar…
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch ichi am yr ymateb hwnnw. Byddwn i'n falch petaech chi'n cadarnhau bod y cronfeydd yna i gyd yn agored ac yn fyw ar hyn o bryd. Dwi wedi cael cyswllt gan rai cymunedau, yn cynnwys cyngor Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch a chyngor Cyffylliog yn sir Ddinbych…
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
3. Pa gefnogaeth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru am ei rhoi i gymunedau fedru cael mynediad at well gwasanaeth bandeang? OQ56711
29 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Enwebiadau ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau
Diolch, Llywydd. Buaswn i'n dymuno enwebu Delyth Jewell i fod yn Gadeirydd y pwyllgor o dan sylw.
23 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, os ŷch chi'n disgwyl i awdurdodau lleol wneud hyn o'u gwirfodd, dwi'n meddwl eich bod chi'n twyllo'ch hunan i raddau, Weinidog. Dwi'n meddwl bod angen i'r Llywodraeth yma fod yn rhagweithiol i annog yr awdurdodau lleol i fabwysiadu'r gyfundrefn yma…
23 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
3. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn mabwysiadu'r bleidlais sengl drosglwyddadwy fel system bleidleisio yn sgil Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn dod i rym? OQ56641
23 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Tra'n cydnabod heriau amlwg y setliadau annigonol ariannol, diffygiol, rydyn ni wedi eu cael o gyfeiriad Llundain, mae'r pwyllgor yn gosod yr her i'r Llywodraeth i wneud yr hyn sy'n bosib i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus ni, wrth gwrs, er mwyn…
23 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
'Mae deddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynllunio ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn anos ei gweithredu’n briodol os caiff cyllidebau eu gwarantu am gyn lleied â blwyddyn ar y tro.’
23 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch. Dyw'r Llywodraeth ddim wedi ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad eto. Dwi'n meddwl mai'r bwriad oedd gofyn i'r Llywodraeth bresennol ymateb gan fod yr adroddiad wedi dod ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf. Ac wrth gwrs, o gofio'ch rôl allweddol chi nawr yng…
23 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rydych chi wedi cyffwrdd ar hynny, efallai, yn eich ateb blaenorol, ond efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni, felly, pa bartneriaethau a strwythurau ŷch chi'n rhagweld bydd yn cael eu gwneud yn redundant dros y cyfnod nesaf. Ac yn wir, yr awgrym wedyn yw…
23 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
'yn y tymor hwy, byddem yn rhagweld y byddai rhai o'r partneriaethau hynny, rhai o'r strwythurau eraill, yn dod yn ddiangen mewn gwirionedd, gan y bydd gan y cyd-bwyllgorau corfforedig drosolwg llawer mwy pwerus—a throsolwg llawer ehangach wrth iddynt…
23 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae, wrth gwrs, y pwynt yma wedi dod yn glir yn sgil adroddiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, pwyllgor trawsbleidiol, ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf, wnaeth edrych ar roi'r Ddeddf llesiant ar waith. Roedd y pwyllgor yn dweud bod, ac rwy'n dyfynnu…
23 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, mae Alun Michael yn ddyn lwcus. Dyna ni. Rwy'n siŵr y byddwch yn siarad â phobl eraill hefyd.
23 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gaf i achub ar y cyfle fan hyn i'ch llongyfarch chi ac i roi ar y record yn ffurfiol fy llongyfarchion i chi ar eich penodi yn Weinidog yn y Llywodraeth bresennol? Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i gysgodi eich gwaith chi yn…
15 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae yna bedair blynedd nawr ers i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ddiwethaf gynnal ymchwiliad yn edrych ar iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru—perinatal mental health. Nawr, ymhlith yr argymhellion a dderbyniwyd gan y Llywodraeth oedd bod y…
9 Mehefin 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2 i roi cyfarwyddiadau i bwyllgor priodol mewn perthynas â pharth perygl nitradau Cymru gyfan
Dwi'n falch iawn bod Plaid Cymru wedi cydgyflwyno'r ddadl yma y prynhawn yma, ac mai cynnig ar y cyd gan y gwrthbleidiau yw hyn, sy'n dangos, wrth gwrs, pa mor gryf yw teimladau ar y mater yma. Ond o'm safbwynt i, wrth gwrs, mae hwn yn gynnig sy'n cael ei…