10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Diolch yn fawr. Mae'r cais cynllunio ar gyfer y cynllun adfer diwygiedig yn Ffos-y-frân a'r ceisiadau cysylltiedig am ddefnydd parhaus o bwynt gwaredu Cwmbargoed wedi eu galw i mewn ym mis Ebrill. Mi fydd arolygydd cynllunio annibynnol yn rhoi cyngor i…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn am y gost i gyrff cyhoeddus. Gwelais adroddiadau yn y cyfryngau ar yr hyn y credaf y gallech ei ddisgrifio fel casgliad sbwriel eithafol. Roedd yn gryn ymdrech gan y tîm achub mynydd, yr awdurdod lleol, fel y…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Diolch yn fawr. Yn sicr, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid—a soniais am Taclo Tipio Cymru—i gyfyngu ar y broblem. Gwn, er enghraifft, yng Nghaerffili, fod swyddog gorfodi de-ddwyrain Cymru Taclo Tipio Cymru wedi gweithio'n agos gyda'r…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Wel, edrychwch, rwyf am i'r rhai sy'n gyfrifol am niweidio ein cymunedau dalu'r gost, nid awdurdodau lleol a'n cymunedau, oherwydd, yn y pen draw, y trethdalwr sy'n talu'r bil. Nawr, mae Taclo Tipio Cymru’n rhaglen a gyflwynir drwy Cyfoeth Naturiol Cymru…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Wel, edrychwch, mae tipio anghyfreithlon yn drosedd, ac mae angen ei thrin felly, ac mae hynny'n golygu camau gorfodi cryf a chosbau cryf. Cyfeiriais mewn ateb cynharach at yr egwyddor mai’r llygrwr sy’n talu. Mae hynny'n berthnasol i dipio anghyfreithlon…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid a chymunedau ledled Cymru i newid agweddau ac ymddygiad o ran y ffordd y gwaredwn ein gwastraff. Mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys ariannu Taclo Tipio Cymru, sy'n codi ymwybyddiaeth, yn cydlynu gweithredu gan bartneriaid a…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Diolch am eich cwestiwn. Ni allaf wneud sylwadau ar unrhyw achosion unigol wrth gwrs, gan fod y rheoliadau cynllunio yn golygu efallai y bydd Gweinidogion Cymru yn rhan o rai o'r ystyriaethau hynny. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod 'Polisi Cynllunio Cymru' yn…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Wel, rwy'n benderfynol o adeiladu ar rai o'r rhaglenni hynny, yn sicr, gan fod mynediad at natur a chreu a gwarchod ein mannau gwyrdd yn flaenoriaeth hollbwysig i'r Llywodraeth hon. Roedd ein maniffesto, er enghraifft, yn hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Mae Llywodraeth Cymru’n cryfhau mesurau gwarchod natur drwy gynllun gweithredu hinsawdd a natur, sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol hefyd, ac, wrth gwrs, gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer adfer natur. Rydym yn adfer ecosystemau, yn cefnogi…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n credu mai un o'r tasgau mwyaf y bydd y Llywodraeth hon yn eu hwynebu dros y blynyddoedd nesaf yw ail-lunio'r dirwedd reoleiddio gyfan yma yng Nghymru. Fe fyddwch yn gwybod bod newidiadau ar y gweill, oherwydd newidiadau yn…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Dwi'n rhannu, fel roeddwn i'n dweud, ac yn cydnabod y consỳrn gan bobl leol ynglyn â hyn. Dyw sefyllfaoedd o'r fath ddim yn dderbyniol. Yn anffodus, mae pethau fel hyn yn digwydd oherwydd, wrth gwrs, natur yr isadeiledd, oed yr isadeiledd, a'r ffaith bod yr…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Rŷn ni'n ymwybodol o'r digwyddiad llygredd sydd wedi effeithio ar Afon Cynffig ac rŷn ni'n rhannu pryder yr Aelod a'r cyhoedd ynglŷn â'r sefyllfa yn fanna. Dwi wedi gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru, i Ofwat a Dŵr Cymru i fy niweddaru i ynglŷn â'r sefyllfa am…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Nid wyf yn credu y byddwn yn gweld strategaeth o fewn yr ychydig wythnosau nesaf. Rwy'n credu bod llawer o waith angen ei wneud ar hynny, ac yn amlwg, llawer o waith i helpu pobl i ddeall natur y broblem y ceisiwn fynd i'r afael â hi yma. Ond mae'n uchel iawn…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Edrychwch, mae'r Aelod yn llygad ei le: nid ydym ar y trywydd iawn. Yn ôl cyngor bwrdd y rhaglen TB, er bod gennym darged o ddileu TB erbyn 2041, ar y trywydd presennol, fe fydd ymhell i mewn i'r 2050au arnom yn dod yn agos at ble mae angen inni fod mewn…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Wel, mae'r farn honno, wrth gwrs, yn cyferbynnu'n llwyr â barn yr arbenigwyr sy'n cynghori'r Llywodraeth hon—yr arbenigwyr a gafodd eu dwyn ynghyd gan y Llywodraeth flaenorol. Felly, efallai fod angen i bob un ohonom fyfyrio rywfaint ar hynny. Buaswn yn…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Gwnaf.
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Rydych chi'n gywir, roeddwn yn gwrthwynebu'r rheoliadau fel y'u hamlinellwyd yn flaenorol o'r diwrnod cyntaf, mewn gwirionedd. Roeddwn yn arbennig o awyddus i newid i ddull cymesur wedi'i dargedu, fel y dywedwch, nid newid i'r dull ffermio yn ôl y calendr…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Wel, nid oes angen ichi ddweud wrthyf fod y mater hwn yn fater brys. Mae gennyf ffrindiau a theulu sydd wedi bod drwy uffern oherwydd TB. Ac ni fyddaf yn gorffwys hyd nes y byddwn mewn sefyllfa lle rydym ar lwybr llawer mwy cadarnhaol o ran cyflawni ein holl…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Fe ddywedoch chi mai dim ond newydd gyhoeddi'r ffigurau hynny rydym ni. Mae hynny'n wir, oherwydd, wrth gwrs, dim ond newydd gau y mae'r cyfnod ar gyfer gwneud ceisiadau, ac roeddem yn dal i gael ceisiadau tan hanner nos neithiwr. Felly, rwy'n credu ei bod yn…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Yn sicr, mi fyddwn i'n gobeithio gwneud hynny. Fel rydych chi'n gwybod, mae gennym ni fwriad i gyflwyno adolygiad o'r tâp coch sy'n wynebu'r diwydiant amaeth fel un ymrwymiad clir sydd gennym ni, a dwi'n edrych ymlaen at fedru gwneud cyhoeddiad ynglŷn â hynny…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Nid wyf eisiau dweud 'na', ond rhaid imi ddweud fy mod i'n siŵr nad ydych chi wedi gweld fy nyddiadur ar gyfer y misoedd nesaf. Ond rwy'n awyddus iawn i ymgysylltu â'r sector ffermio a sectorau perthnasol eraill ar draws pob rhan o Gymru, a phan fydd amser yn…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymateb i anghenion cymunedau gwledig ledled Cymru. O fewn y 100 diwrnod cyntaf, byddwn yn cyflwyno cynigion ar gyfer dyletswydd prawfesur gwledig statudol i sicrhau bod rhaglenni a modelau cyllido Llywodraeth Cymru yn…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Ydw.
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Diolch am eich cwestiwn. Mae craffu ôl-ddeddfwriaethol fel arfer yn digwydd ar ôl i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno, ac rwyf am ei gwneud yn glir i'r Siambr heddiw, er gwaethaf y farn a oedd gennyf ynghylch y ddeddfwriaeth benodol honno, y byddaf yn parchu…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Wel, fe fyddwch chi'n gwybod, wrth gwrs, fod hynny'n destun ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y funud. Nid yw Deddf Hela 2004 o fewn ein cymhwysedd deddfwriaethol. Rwy'n credu mai'r lleiaf y gallwn ei wneud yw aros am ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus, sy'n…