8 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Rŷn ni wedi ymrwymo, wrth gwrs, i gefnogi cymunedau ar draws Cymru i addasu i'r newid yn yr hinsawdd ac i leihau effeithiau tywydd garw. Rŷn ni eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu hinsawdd a natur…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Reform UK: Deddf Afonydd i Gymru
Bydd Llywodraeth Cymru yn diogelu ein hafonydd, ond fe wnawn hynny drwy gymryd rheolaeth ar ddŵr yng Nghymru er mwyn inni allu cryfhau goruchwyliaeth reoleiddiol, gwella atebolrwydd cwmnïau dŵr ac ysgogi gwell perfformiad amgylcheddol ar draws ein hafonydd…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Reform UK: Deddf Afonydd i Gymru
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma? Dwi'n meddwl ei bod hi'n wir i ddweud ein bod ni i gyd yn siarad o'r galon pan ydyn ni'n trafod y mater yma. Er efallai bod y geiriau yn gwahaniaethu'r pwyslais, dwi'n…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Reform UK: Deddf Afonydd i Gymru
Cynnig.
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Blaenoriaethau ar gyfer Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Diolch yn fawr. A gaf i longyfarch yr Aelod am sôn wrthyf yn gyson am rai o'r materion hyn? Mae'n amlwg ei fod eisoes yn eiriolwr cryf dros y cymunedau gwledig y mae'n eu cynrychioli. O ran rhai o'r newidiadau i'r cynllun ffermio cynaliadwy, rydyn ni wedi…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Blaenoriaethau ar gyfer Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Diolch. Byddwn ni, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, yn gweithio'n agos gyda'r undebau ffermio. Rwy'n credu'n gryf yn yr effaith y mae polisi'r Llywodraeth yn ei chael ar fywydau a phrofiad pobl o'r polisi hwnnw. Mae'n ddigon hawdd i wleidyddion ddweud, 'Dyna…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Blaenoriaethau ar gyfer Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Diolch am hynny. Fel y dywedais i'n gynharach, rwyf wedi cyfarfod y bore yma â'r Gweinidog materion gwledig newydd yn San Steffan. Dim ond ers ychydig ddyddiau y mae wedi bod yn ymgymryd â'r rôl. Er tegwch, rwy'n credu ei fod ef a minnau ychydig fel lloi…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Blaenoriaethau ar gyfer Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Diolch am y cwestiynau hynny. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â rhai cynrychiolwyr o'r sector da byw a lladd-dai yng Nghymru. Yn amlwg, fel yr atebais o'r blaen, rwy'n rhannu eich pryderon chi a phobl eraill am golli'r capasiti hwnnw. Dydyn ni ddim eisiau gweld…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Blaenoriaethau ar gyfer Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Fy neges i bobl ifanc yw ein bod ni'n eich clywed chi ac y byddwn ni'n gweithredu. Mae gennym ni gynigion i fod yn sero net erbyn 2040, ar gyfer adferiad natur erbyn 2050. Mae'r gwaith ar ein cynllun gweithredu hinsawdd a natur…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Blaenoriaethau ar gyfer Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Mae'n debyg eu bod nhw'n teimlo'n llai gwydn ac yn llai cynaliadwy am mai dim ond am bedair neu bum wythnos rydyn ni wedi bod yn y Llywodraeth. Wyddoch chi, gadewch i ni fod o ddifrif. Rwyf wedi bod yma'n amlinellu camau rydyn ni eisoes yn eu cymryd. Fe…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Blaenoriaethau ar gyfer Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Diolch am y cwestiwn. Mae pwysigrwydd y sector fwyd a diod i Gymru yn ddiamheuol. Hynny yw, pan ŷch chi'n edrych ar rai o'r ffigurau, mae'n anhygoel a dweud y gwir. Mae'n cynrychioli gwerth o tua £27 biliwn bob blwyddyn i economi Cymru, ac mae'n gyfrifol am…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Blaenoriaethau ar gyfer Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Iawn, oce, iawn. Wel, mae hynny, wrth gwrs, yn ganlyniad i Brexit. Rydyn ni'n cael ein gadael heb atebolrwydd os nad yw awdurdodau cyhoeddus yn cyflawni eu hymrwymiadau neu eu rhwymedigaethau cyfreithiol o ran yr amgylchedd; lle o'r blaen gallech chi ei…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Blaenoriaethau ar gyfer Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Ar y pwynt olaf, wnes i ddim deall yn iawn. Rwy'n credu eich bod chi'n golygu Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru.
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Blaenoriaethau ar gyfer Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Diolch yn fawr. Diolch am y cwestiynau hynny. Rwy'n edrych ymlaen at y craffu y byddaf, yn ddi-au, yn ddarostyngedig iddo gennych yn y Siambr hon a thu hwnt. O ran diogelwch tomenni glo, yn sicr rwy'n dymuno parhau â gwaith y Llywodraeth flaenorol ac mae…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Blaenoriaethau ar gyfer Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Fe wnaf i eu cymryd nhw mewn—. Na, efallai wnaf i ddim eu cymryd nhw mewn trefn, ond fe wnaf i eu cymryd nhw yn nhrefn dewis, efallai. [Chwerthin.] O ran yr adolygiad o fiwrocratiaeth, edrychwch, rwyf o ddifrif am fuddugoliaethau cyflym. Rydyn ni wedi gosod…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Blaenoriaethau ar gyfer Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Diolch yn fawr iawn am y rhestr hirfaith yna o bynciau imi ymateb iddyn nhw.
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Blaenoriaethau ar gyfer Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Dwi hefyd, Ddirprwy Lywydd, eisiau lleihau'r baich biwrocrataidd sydd ar ffermydd teuluol, gan wneud gwahaniaeth go iawn i'r amser sy'n cael ei dreulio ar brosesau cymhleth a dyblyg—amser y gellid, wrth gwrs, ei dreulio, fel arall, yn rheoli stoc, yn gwella…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Blaenoriaethau ar gyfer Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Mae'r cynllun yn ymwneud â chyflawni. Byddwn yn gwella gwydnwch i effeithiau hinsawdd wrth gefnogi cyfleoedd ar gyfer swyddi medrus â chyflog da, ynni cymunedol, cartrefi cynhesach, gwell seilwaith a phontio teg i bawb. Bydd y cynllun yn dwyn ynghyd y camau…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: Blaenoriaethau ar gyfer Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gael y cyfle i wneud y datganiad yma heddiw i esbonio fy mlaenoriaethau i ar gyfer fy mhortffolio. Mewn wythnos, wrth gwrs, lle'r ydym yn gweld rhybudd tywydd coch am wres am y tro cyntaf yma yng…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Fel y soniais yn gynharach rwy'n credu, dylai'r system gynllunio ystyried y materion hyn. Yn amlwg bydd yna enghreifftiau lle nad yw hynny'n digwydd, a gallai fod rhesymau dilys dros hynny neu beidio. Barn oddrychol yw hynny o bosibl. Ond rwy'n ymrwymedig i…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Rwy'n cydnabod pwysigrwydd diogelu a gwella mynediad at fannau gwyrdd ar gyfer llesiant cymunedol, iechyd a gwydnwch ein hamgylcheddau trefol. Rydym yn adolygu'r gefnogaeth bresennol ar gyfer seilwaith gwyrdd trefol a chyflawniad cymunedol, gan weithio gyda…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Fel rhywun sydd wedi siarad yn agored am fy mhrofiad personol o heriau iechyd meddwl, rwy'n angerddol am y gwaith y mae'r Sefydliad DPJ, y Sefydliad Amaethyddol Llesiannol Brenhinol, Tir Dewi a'r lleill i gyd yn ei wneud yn y maes. Mae'n wasanaeth…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Mi wnes i ymweld, gyda'r Gweinidog cyllid, digwydd bod, rai misoedd yn ôl, â phroject sir Benfro, ac mi ges i fy ysbrydoli, a dweud y gwir, gan y gwaith sydd yn digwydd yn fanna. Fel rŷch chi'n dweud, mae'n cael ei arwain gan y diwydiant. Mae'r ffermwyr a'r…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Rŷn ni wedi ymrwymo i ddatblygu approach holistaidd i gael gwared ar TB yng Nghymru, un sy'n seiliedig ar y wyddoniaeth ac ar y dystiolaeth sydd o'n blaenau ni, yn tynnu ar arbenigrwydd a chyngor gan y grŵp cynghori technegol a'r bwrdd rhaglen TB yma yng…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Doeddwn i ddim yn ymwybodol o hynny. Dwi yn teimlo bod lleisiau lleol yn bwysig mewn trafodaethau fel hyn. Mae hynny'n rhywbeth y gwnaf i fynd bant gyda fi a thrafod ymhellach gyda swyddogion. Diolch am godi'r pwynt.