7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Mae'r grŵp arbenigol ar ofal a gynlluniwyd wedi dechrau ar ei waith ac yn datblygu cynllun cyflawni ar gyfer hyd at 10 hyb gofal a gynlluniwyd ledled Cymru, gydag argymhellion i'w cyflwyno erbyn diwedd 2026. Mae'r grŵp yn cael ei arwain yn glinigol ac yn dod…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Ddirprwy Lywydd, mae hybiau llawfeddygol yn ganolog i'n cynlluniau i leihau amseroedd aros a gwella mynediad at ofal a gynlluniwyd. Rydym wedi ymrwymo £25 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi'r gwaith o ddatblygu hybiau gofal a gynlluniwyd, gofal llawfeddygol a…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n ofni bod edrych arno drwy'r lens honno'n rhy syml. Mae'n gyfystyr â dweud, 'Gadewch inni roi'r gorau i ddatblygiadau yn yr ystadau am fod angen inni roi mwy o arian tuag at nyrsio, neu fwy o arian tuag at y sector clinigol.' Nid yw…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Rydym yn gweithredu'n bendant i ddatgarboneiddio'r system iechyd a gofal a chryfhau gwydnwch hinsawdd. Mae 'Cynllun cyflenwi strategol datgarboneiddio GIG Cymru' a 'Datgarboneiddio Gofal Cymdeithasol yng Nghymru' yn nodi sut y bydd y sector yn cyfrannu at…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Ddirprwy Lywydd, rwy'n cytuno bod hyn yn fwy nag anghyfleustra. Pan fydd cleifion yn aros am ddiagnosis neu driniaeth, gall cyfathrebu gwael ychwanegu trallod ac ansicrwydd sylweddol. Ni ddylid trosglwyddo cleifion rhwng sefydliadau i gael gwybodaeth am eu…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Mae cleifion yn haeddu cyfathrebu clir, amserol a thosturiol trwy gydol eu gofal. Rydym yn cryfhau atebolrwydd am brofiad cleifion, yn gwella sut y mae cyrff y GIG yn rhannu gwybodaeth ac yn ehangu ap GIG Cymru a chofnodion cydgysylltiedig fel y gall pobl…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Mae'n siŵr ei bod hi'n bwysig nodi nad wyf i, fel Gweinidog, yn pennu targedau ar gyfer pob bwrdd iechyd unigol; y byrddau iechyd eu hunain sy'n cyflawni’n glinigol yn eu hardaloedd, felly mater iddynt hwy yw cyflawni hynny yn seiliedig ar eu gallu i wneud…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Diolch. Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn siŵr a ddylwn ddatgan buddiant: roeddwn i'n arfer bod yn aelod o staff y British Heart Foundation flynyddoedd lawer yn ôl, gan fod yr Aelod wedi cyfeirio at y British Heart Foundation yn ei gwestiwn. Ond ar y prif bwynt…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Mae ein rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i flaenoriaethu atal salwch drwy ddull trawslywodraethol a datblygu strategaeth iechyd y cyhoedd. Mae hefyd yn cynnwys ymrwymiad i gryfhau llwybrau clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal cardiofasgwlaidd, gan sicrhau…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Diolch. Rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle, roedd y rhaglen lywodraethu yn cynnwys rhestr anghyflawn o nifer o faterion iechyd mewn perthynas â phobl Cymru. Pan ddywedaf 'anghyflawn', mae'n golygu bod yna rai eraill y byddwn yn mynd i'r afael â nhw ac yn…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Nawr, mae'r rhaglen lywodraethu'n ddogfen ragorol—byddai llawer yma'n cytuno. Ond nid diben y rhaglen lywodraethu yw nodi holl fanylion yr holl ddeddfwriaeth na phob rhan o'r gwaith y byddwn yn ei…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Mae hwnnw'n gwestiwn diddorol, gan fod y strwythur sydd gennym o amgylch y fframwaith atebolrwydd wedi'i etifeddu gan eich Llywodraeth chi, rhywbeth a sefydlwyd gan fy rhagflaenydd, Edwina Hart, yn wreiddiol yn ôl yn 2009. Nid wyf yn fodlon ar y fframwaith…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Nid hyd y gwn i, Ken, ond os ydych chi'n ymwybodol o unrhyw faterion y credwch y dylid eu dwyn i fy sylw, gwnewch hynny ar bob cyfrif.
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Mae'r Aelod yn llygad ei le; mae'n rhwystredig fod y broses gynllunio'n gallu arafu pethau. Dyna pam y byddwn yn gweithio gyda'r Gweinidog cynllunio, Siân Gwenllian, yma, ar nodi sut y gallwn wella'r broses gynllunio honno ar gyfer seilwaith hanfodol. Ond yn…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Am ein bod yn gweithredu ar hyn. Rwyf wedi siarad â Chymdeithas Feddygol Prydain sawl gwaith cyn dod i'r swydd hon ac ers hynny ynglŷn â phwysigrwydd gofal sylfaenol a meddygon teulu a'u rolau. Maent yn hanfodol, rydych chi'n llygad eich lle. Os ydym am fynd…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Diolch i'r Aelod am roi'r cyfle imi ymateb unwaith eto i gwestiynau ynghylch rhestrau aros, rhywbeth rwyf wedi'i wneud yn eithaf aml dros yr ychydig fisoedd diwethaf, felly beth bynnag a ddywedaf, ni fydd yn newydd. Rydych chi'n llygad eich lle fod y…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Diolch. Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig yno ynglŷn â'r ffaith, os na all pobl gael mynediad at eu gofal iechyd, yna mae'n rhaid iddynt dalu, ac nid yw am ddim pryd a lle bynnag y caiff ei ddarparu bryd hynny. Fel y dywedais, mae hwn yn fater lle mae…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Diolch am eich cwestiwn atodol, sy'n gwneud pwynt hollbwysig ynglŷn â mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus â'n sefydliadau iechyd. Roeddwn ym Mharc Iechyd Llantrisant yn ddiweddar—efallai eich bod wedi gweld y datblygiad…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Rydych chi'n llygad eich lle i dynnu sylw at yr effaith y gall canslo apwyntiadau ei chael ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae a wnelo mynediad at ofal iechyd â mwy na'r apwyntiad ei hun, fel y dywedwch yn gywir ddigon; mae a wnelo…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Diolch am eich cwestiwn. Mae Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru yn dwyn Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i gyfrif drwy graffu'n gyson ar berfformiad, gan gynnwys tueddiadau canslo, achosion a phatrymau daearyddol. Mae rhaglen wella…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Diolch am eich cwestiwn, ac rydym yn gwerthfawrogi ac yn deall y bydd llawer o bobl, sefydliadau a busnesau ledled Cymru yn teimlo'r pwysau dros y misoedd nesaf wrth i gostau ynni gynyddu. Mae fy swyddogion yn monitro'r sefyllfa'n barhaus. Ar hyn o bryd, nid…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Diolch am hynny. Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â hygyrchedd mewn cymunedau gwledig, neu ddiffyg hygyrchedd. Dyna pam y mae'r Llywodraeth hon wedi cyflwyno'r cynllun prawfesur gwledig, er mwyn sicrhau, pryd bynnag y datblygir polisi neu y…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Diolch. Ddirprwy Lywydd, mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig yn fanna o ran rôl gofal integredig yn agosach i gartref ac, wrth gwrs, dyna rydym ni'n trio ei wneud ar hyn o bryd. Mi rydyn ni wedi delifro ar yr ymrwymiad a wnaethom ni yn ystod y 100 diwrnod…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Diolch am y cwestiwn. Yn unol â'n hymrwymiad ni yn y rhaglen lywodraethu, mae ein fframwaith system gofal cymunedol integredig yn dod â phartneriaid o'r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol, tai a'r trydydd sector ynghyd i edrych ar anghenion lleol. Drwy'r…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Pwysigrwydd gwasanaethau lleol—Diogelu dyfodol ysbyty Llwynhelyg
Lywydd, mae hi hefyd yn bwysig bod yn glir ynglŷn â ble mae’r cyfrifoldebau’n gorwedd. O dan y fframwaith statudol presennol, cyfrifoldeb sefydliadau’r NHS yw gwneud penderfyniadau am ffurf gwasanaethau lleol, gan weithredu o fewn eu dyletswyddau statudol a…