20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan
Rwy'n gwerthfawrogi'r neges gan yr arweinydd Llafur, ac rwy'n rhywun sydd bob amser wedi teimlo bod angen i ni sicrhau bod ein plant yn gwybod ein stori, yn gwybod ein hanes, ac mae gan ein hanes sawl agwedd iddo. Mae gennym ni hanes diwydiannol balch, mae…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan
Rwy'n ddiolchgar am deyrnged feddylgar, ac, yn fyr, Lywydd, mae'n neges bwysig ein bod ni byth yn anghofio. Mae'r pen-blwydd chwe deg yn mynd â ni ymlaen i ben-blwyddi chwe deg un a chwe deg dau, oherwydd mae'n rhaid i'r cof am yr hyn a ddigwyddodd yn Aberfan…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan
Yn wir, Lywydd. Rydyn ni'n synhwyro'r prynhawn yma, onid ydyn ni, bod gennym ni i gyd berthynas wahanol â'r drasiedi honno yn Aberfan, ond ei fod yn rhywbeth sy'n berthnasol i bob un ohonon ni. Efallai ei fod yn deulu, efallai ei fod yn foment a gafodd ei…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan
Diolch i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru. Ac yn wir, mae'r gair yna, 'undod', unwaith eto, onid ydy, yn adlewyrchu'r negeseuon dŷn ni wedi eu clywed yma yn Senedd Cymru heddiw ac yn y dyddiau yn arwain at yfory. Efo'n gilydd fel cenedl mae…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan
Pan fo'r Senedd hon yn deddfu, rydyn ni'n ymrwymo ar y cyd i sicrhau bod y ddeddfwriaeth honno yn cael ei gweithredu. Roedd Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 yn ymwneud yn llwyr â rhoi'r sicrwydd hwnnw y byddwn ni'n defnyddio'r…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan
Diolch. Rwy'n gwybod pa mor anodd yw hi i Lis ac eraill siarad a chofio, ond rwy'n gwybod pa mor benderfynol ydyn nhw, hefyd, i fyth anghofio. Fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, ac rwy'n cytuno'n fawr â'r Aelod, dyma hanes cymuned a wynebodd drasiedi…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan
Ond rydyn ni'n cofio hynny, cymaint o bobl, y mae eu henwau wedi hen ddiflannu o gof y genedl, ond y mae eu hymateb ar y diwrnod hwnnw, mewn ffyrdd bach, wedi cyfrannu at ddangos yr hyn ydyn ni fel cenedl, a ddaeth at ei gilydd fel un gymuned ar y diwrnod…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan
Ond mae'r deyrnged a'i thôn hi yn bwysig iawn gennym ni yma, onid ydy, fel Senedd heddiw, ac mae'r pwynt wedi'i wneud gan sawl un: mi oedd modd osgoi hyn. Rhywbeth wedi'i greu gan ddyn oedd hyn, ac mi oedd y camgymeriadau yn yr ymateb a'r anghyfiawnderau yn…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan
Oes, mae'n rhaid i ni i gyd ddod at ein gilydd i geisio cyfiawnder ar gyfer y cymunedau ac i anrhydeddu'r rhai a fu farw ac a fu'n byw gyda chanlyniadau'r arswyd hwnnw ers cymaint o flynyddoedd, a pharhau i wneud hynny. Mae'n rhaid i ni, pob un ohonon ni, fod…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan
Diolch, Lywydd. Dwi'n ddiolchgar i arweinyddion a llefaryddion y pleidiau am eu sylwadau nhw, am eu teyrngedau nhw ac am eu cwestiynau nhw.
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan
Daeth y chweched Senedd at ei gilydd yn unfryd i bleidleisio dros greu awdurdod tomenni nas defnyddir Cymru, a fydd yn gweithio i leihau'r bygythiadau o domenni mewn hen gymunedau glofaol ledled Cymru. Mae ei ddatganiad cenhadaeth yn atseiniol yr wythnos hon…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan
Cenedl yn un, nid yn unig yn ein galar, ond yn yr addewid rydyn ni wedi ei wneud efo'n gilydd i gofio bob amser. Rydyn ni'n cofio'r effaith a gafodd y drychineb ar gymuned Aberfan a'r hyn a ddaeth wedyn. Mae'r effaith honno'n dal i gael ei theimlo hyd heddiw…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan
Lywydd, heddiw mae'r Senedd yn dod at ei gilydd fel un i nodi un o'r dyddiau tywyllaf yn hanes ein cenedl. Chwe deg mlynedd yn ôl i yfory, llithrodd tomen sbwriel pwll glo o wastraff glofaol i lawr ochr y mynydd uwchben Aberfan. Fe wnaeth amlyncu Ysgol Iau…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n cydnabod yn llwyr y rhai sydd wedi rhoi gwasanaeth yn y lluoedd arfog a'r rhai a gollodd eu bywyd mewn brwydrau, wrth gwrs. Rydym ni'n gwbl ymrwymedig yn y Llywodraeth i'r cyfamod sy'n nodi ein dyletswydd i'r rhai a fu'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ni ddylai unrhyw gyn-filwr deimlo nad oes cefnogaeth ganddo wrth iddo wynebu heriau personol sylweddol. Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau y bydd cyn-filwyr yng Nghymru yn gallu cael gafael ar y cymorth iechyd meddwl y mae ei angen arnyn nhw. Mae gan gyn-filwyr…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn sicr, rwy'n cydnabod y galw am dai cymdeithasol ychwanegol, a dyna pam, dros yr haf eleni, fe wnaethom ni gyhoeddi fersiwn newydd o'r offeryn a'r canllawiau i asesu'r farchnad tai leol. Mae'r rhain yn offerynnau hanfodol i ddeall anghenion tai lleol y…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gwnaf. Mae darparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol ychwanegol erbyn 2030 yn flaenoriaeth bendant i'r Llywodraeth hon. Cafodd tua £474 miliwn ei ddyrannu ar gyfer tai cymdeithasol eleni. Mae'r awdurdodau lleol ar draws etholaeth Clwyd wedi cael bron i £100…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fel dywedais i, nid oes unrhyw gynlluniau ar gyfer ailstrwythuro. Fe wnaf i gyfeirio at yr hyn a ddywedais i eisoes. A ydym ni'n chwilio am bartneriaethau gwell? Ydym. A yw hynny'n golygu partneriaethau gwell rhwng byrddau iechyd? Ydy. A ydym ni'n chwilio am…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid yw ailstrwythuro yn flaenoriaeth uniongyrchol i'r Llywodraeth hon. Yn hytrach, rydym ni'n canolbwyntio ar wella cyflawni a chanlyniadau, a mynd i'r afael â rhwystrau rhag cydweithrediad sefydliadol sy'n fwy effeithiol. I wneud hynny, rydym ni'n…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mewn gwirionedd, nid wyf i'n anghytuno â'r pwynt canolog a gafodd ei wneud nawr, mai ein gwaith yw gwario arian yn briodol, ond eich swydd chi yw ein dal ni i gyfrif am y ffordd yr ydym ni'n gwario ein harian. [Torri ar draws.] Dyna'r hyn y cawsoch chi eich…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n canolbwyntio yn fawr iawn, Lywydd, ar wneud i bob punt o arian cyhoeddus weithio mor galed â phosibl er mwyn pobl Cymru. Mae hynny'n golygu gwario yn well, lleihau dyblygu, symleiddio sut mae'r Llywodraeth yn gweithio a symud adnoddau o'r…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae ein strydoedd mawr wedi bod yn dirywio ers blynyddoedd lawer. Pan welwn ni unrhyw enghreifftiau o fusnesau anghyfreithlon neu fusnesau nad ydyn nhw'n ymddwyn mewn ffordd briodol, mae hi wedi bod yn wir bob amser y gallai safonau masnach gamu i mewn. Rydym…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae busnesau'r stryd fawr wrth galon cymunedau ffyniannus. Rydym ni'n cefnogi busnesau ledled Gŵyr Abertawe drwy adfywio canol trefi, ochr yn ochr ag estyn cyngor, cyllid, sgiliau a chymorth digidol. Yn ogystal â hynny, mae ein tasglu canol trefi sy'n…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn iawn, Lywydd, bywydau pobl yw'r rhain, eu gallu nhw i ddefnyddio gwasanaethau a defnyddio cyfleusterau hamdden ac ati, ac rwy'n sicr yn cydnabod swyddogaeth hanfodol gwasanaethau bysiau yn hynny o beth, o ran cysylltu cymunedau cefn gwlad â…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Drwy ehangu talu wrth fynd ar y rhwydwaith rheilffyrdd, ein buddsoddiad o £26 miliwn mewn grantiau bysiau a rhwydwaith gogledd Cymru, a £28 miliwn o gyllid drwy'r gronfa drafnidiaeth ranbarthol, rydym ni'n parhau i fuddsoddi'n ystyrlon mewn trafnidiaeth…