20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, y peth cyntaf y byddwn i'n ei ddweud yw bod yn ddrwg gen i am eich colled chi a'ch teulu, ac rwy'n siŵr y bydd eich profiad eich hun yn eich gwneud chi'n ymgyrchydd effeithiol dros y rhai sy'n byw gyda MND. Mae gan bobl hawl i ddisgwyl i ni eu helpu nhw…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae clefyd niwronau motor yn salwch ofnadwy sy'n cael effaith ddofn ar y rhai yr effeithir arnyn nhw, eu teuluoedd a'u hanwyliaid. Rydym ni wedi ymrwymo i wella gofal a chymorth i bobl sy'n byw gyda'r clefyd. Mae byrddau iechyd yn gweithredu'r datganiad…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n croesawu'r sylwadau hynny. Mae hyn yn rhywbeth a oedd yn fantra i mi pan oeddwn i'n llefarydd iechyd yn yr wrthblaid. Mae'n eithaf amlwg pam mae gor-ddibyniaeth ar staff asiantaeth yn achosi ac yn gwaethygu anghynaliadwyedd o fewn y gweithlu. Mae'n…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod, Lywydd, yn iawn i gydnabod llwyddiant ein timau diabetes arbenigol yma yng Nghymru, ac rwy'n falch o'r cynnydd y mae'r timau hynny wedi ei wneud. Rydym ni'n parhau i gynorthwyo gwelliant yn y broses o ddarparu gofal diabetes trwy ddefnyddio dull…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae cyfwerthedd ag amser llawn yn bwysig iawn, iawn yma, oherwydd rydym ni wedi cael ystadegau yn ystod y blynyddoedd diwethaf sy'n dangos bod nifer y meddygon teulu yn tyfu, pan nad yw nifer y meddygon teulu cyfwerth ag amser llawn wedi cynyddu ar yr un…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae gennym ni'r gweithlu GIG mwyaf a fu gan Gymru erioed. Mae gennym ni weithlu ymroddedig. Mae gennym ni weithlu medrus. Ond rydym ni'n gwybod na ellir barnu cyflwr y gweithlu ar sail niferoedd yn unig. Dyna pam rydym ni'n datblygu strategaeth gweithlu'r GIG…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am bwysleisio eto yr ymyl clogwyn hwnnw y mae angen i ni ei osgoi. Mae camau yn cael eu cymryd i ddarparu cymorth tymor hwy i bobl ifanc sydd wedi gadael gofal. Mae hynny'n dechrau gyda swyddogaeth cynghorwyr personol a darpariaeth…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn bendant, ac rwy'n sicr yn gwerthfawrogi ymdrechion a wnaed gan Weinidogion a Phrif Weinidogion yn y gorffennol i dynnu sylw at hwn fel mater yr ydym ni wedi dod i ddeall, rwy'n credu, fel un y mae angen i ni fel Aelodau etholedig ei gymryd mwy o ddifrif…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, mae profiad bywyd yr Aelod yn dweud wrthi pam nad yw hyn yn dderbyniol, bod pobl yn aros yn rhy hir, ac, fel Llywodraeth, rydym ni eisiau cau'r bwlch hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Mae'r ymrwymiad mabwysiadu…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae pawb yng Nghymru yn haeddu mynediad at ofal a chymorth o ansawdd uchel sy'n brydlon, yn effeithiol ac yn canolbwyntio ar eu hanghenion. Trwy fuddsoddiad mewn cymorth therapiwtig, ymyrraeth gynnar, cael gwared ar elw o ofal a thrawsnewid gwasanaethau…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n parchu pa mor gyson y mae arweinydd y Ceidwadwyr yn gwneud yr alwad honno am ddatgan argyfwng iechyd. Hoffwn roi ar ddeall i'r Senedd hon y ffaith nad wyf i'n credu y gallem ni fod yn trin y GIG gyda lefel uwch o frys nag yr ydym ni ar hyn o bryd. Nid…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n cytuno, Lywydd, â'r pwyntiau a wnaed gan yr Aelod, pan fyddwn ni'n colli arian o'r GIG mewn taliadau iawndal, bod hwnnw'n arian sy'n cael ei golli o'r rheng flaen o fynd i'r afael â'r problemau difrifol sydd gennym ni yn y GIG yng Nghymru. Dydyn ni ddim…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn gwybod yn iawn ein bod ni'n cefnogi egwyddor a diben cyfraith Hillsborough, a bod y ddyletswydd gonestrwydd yn rhywbeth y dylai pobl allu ei ddisgwyl. Ar y sylw a wnaeth yn flaenorol am fwrdd yn Llundain yn gwneud penderfyniadau am ddarlledu…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n datgan buddiant a ddatganwyd yn flaenorol, fel newyddiadurwr fy hun, fel aelod o Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr, ac, wrth gwrs, rydym ni i gyd yn bryderus iawn am unrhyw benderfyniadau cyllido yn y BBC sy'n effeithio nid yn unig ar newyddiaduraeth…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n cytuno â'r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud. Rydym ni'n cytuno ar y niwed a all gael ei achosi i addysg plentyn trwy fodolaeth ffonau mewn ysgolion. Rydym ni'n cytuno hefyd ar yr elfen o fwlio y gellir ei gysylltu â defnydd o ffonau symudol, a…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe wnaethom ni benderfyniad eisoes fel Llywodraeth i weithredu cyn gynted ag y gallem ni. Roedd yn awgrym y gallem ni ddeddfu ar hyn. Fe wnaethom ni'r penderfyniad nad oeddem ni eisiau aros i ddeddfwriaeth ddigwydd ac y byddem ni'n bwrw ymlaen â'i gwneud hi'n…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n sicr yn credu y dylem ni fod â'r agwedd dim goddefgarwch hwnnw o ran trais. Mae fy Llywodraeth wedi dangos yn eglur iawn ei chefnogaeth i'r proffesiwn addysgu, a'r disgyblion, y rhieni a'r gymuned ysgol ehangach sy'n cael eu heffeithio pan, yn anffodus…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y gwaith y mae'n sicr y mae angen iddo ddigwydd i gynnal y darn rhyfeddol hwn o beirianneg. I unrhyw un sydd heb fentro i'w ben pellaf, neilltuwch gryn dipyn o amser, oherwydd mae'n cymryd amser, ond mae'n rhywbeth sydd wir yn…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, fe gawsom ni gyfarfod yn ddiweddar a oedd yn gyfarfod gwleidyddol rhwng plaid wleidyddol yn Iwerddon a minnau fel arweinydd Plaid Cymru yng Nghymru ar feysydd o gyd-gyfrifoldeb. Ceir camau Llywodraeth yr ydym ni'n eu cymryd sy'n ymwneud â masnach ac sy'n…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Lleisiau Eraill yn sicr wedi bod yn bartneriaeth ddiwylliannol werthfawr i Gymru, gan helpu i arddangos talent o Gymru a thalent rhyngwladol, tra'n cryfhau ein perthynas yn benodol ag Iwerddon. Fe wnaeth swyddogion gyfarfod â threfnwyr yr ŵyl fis…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, i Ddulyn yr es i ar fy ymweliad cyntaf 'dros y môr', fel petai, fel Prif Weinidog, yn ôl ym mis Mehefin. Mi oeddwn i’n falch iawn o allu, ar yr ymweliad hwnnw, cadarnhau ymrwymiad fy Llywodraeth i i ddatganiad ar y cyd Iwerddon a Chymru ar gyfer 2030…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn iawn bod yr addasiadau rhesymol hynny y cyfeiriais i atyn nhw yn fy ymateb cychwynnol yn bwysig iawn, iawn. Weithiau gallan nhw fod yn fach, ond gallan nhw wneud gwahaniaeth mawr. Rwyf i hefyd yn croesawu'r cyfeiriad gan yr Aelod at y gwaith y…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu ein bod wedi bod yn eithaf tryloyw bod y rhan helaeth o'r pwysau yr ydym ni'n eu hwynebu fel Llywodraeth yn dod, yn wir, o'r GIG, o'r holl ystod o wasanaethau sy'n cael eu darparu, a'i bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n darparu, gan gynnwys y…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn sicr. Rydym ni'n gweithio gyda byrddau iechyd, gyda meddygfeydd teulu a phartneriaid GIG yn gyffredinol i wella ansawdd cofrestrau anabledd dysgu fel y gellir nodi pobl gymwys a chynnig yr archwiliad iechyd hollbwysig hwnnw iddyn nhw. Rydym ni hefyd yn…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gyda'ch caniatâd, datganiad byr gen i ar y digwyddiad yng Nghasnewydd y bore yma, dim ond i ddweud bod ein meddyliau yn sicr gyda'r plant a'r teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw gan y digwyddiad hwnnw. Rydym ni'n ddiolchgar i'r gwasanaethau brys am eu hymateb…