6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn ein rhaglen lywodraethu ni drwyddi draw, rydym ni'n ymrwymo i gymryd camau i ysgafnu'r pwysau ariannol sy'n wynebu aelwydydd, gan weithio i dorri'r cylch o dlodi y mae llawer gormod o bobl yn eu cael eu hunain ynddo. Fe fydd ein strategaeth tlodi plant…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae diffyg argaeledd deintyddion yn fater sy'n peri gofid mawr i mi. Fe gollais i fy neintydd GIG amser maith yn ôl, fel gwnaeth llawer ohonom ni yma, rwy'n gwybod. Yr hyn yr ydym ni yn y broses o'i wneud nawr yw adolygu'r contract. Mae angen i ni sicrhau bod…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae ein rhaglen lywodraethu ni'n ein hymrwymo i dorri rhestrau aros ac adeiladu gwasanaeth iechyd a gofal sy'n addas i'r dyfodol. Gyda chefnogaeth £145 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol, rydym ni'n cymryd camau ar unwaith i fyrhau arosiadau am ddiagnosis a…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Lywydd, rwy'n gobeithio eich bod chi wedi neilltuo llawer o amser i hyn, oherwydd mae pawb eisiau enwi eu tîm pêl-droed lleol nawr, rwy'n meddwl. Ond rwy'n dymuno'n dda i Hwlffordd. Rwy'n eithaf cyffrous am bêl-droed uwch gynghrair yng Nghymru. Ar hyn o bryd…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Iawn te, rwy'n mynd i orfod bod yn ofalus yn y fan yma. 'Ydw' yw'r ateb i'r cwestiwn. Does gen i ddim amheuaeth bod digwyddiadau chwaraeon proffesiynol, sy'n digwydd wythnos ar ôl wythnos, wrth gwrs, trwy chwaraeon proffesiynol mewn pêl-droed a rygbi, yn…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Lywydd, rwy'n gwybod bod yr Aelod yn siarad o'i phrofiad ei hun o weithio ym maes llywodraethu chwaraeon cyn cael ei hethol yma. Ond byddwn i'n dweud, trwy ein buddsoddiad fel Llywodraeth mewn chwaraeon elitaidd, ein bod ni'n cefnogi partneriaid, gan gynnwys…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu yn yr egwyddor o weld beth allwn ni ei wneud i ddenu digwyddiadau. Mae gennym ni rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr y Merched hefyd yn dod i Gaerdydd. Nid y Llywodraeth sy'n eu cyflawni bob amser. Gall y Llywodraeth fod yn hwylusydd. Gall y…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae chwaraeon proffesiynol yn gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru. Mae'n dod ag ymwelwyr i'n cymunedau, yn cefnogi busnesau lleol, yn creu swyddi ac yn arddangos Cymru i gynulleidfa fyd-eang, gartref a thramor. Fe wnaf i achub ar y cyfle i longyfarch…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gan eich bod chi wedi sôn am brawfesur gwledig a Dechrau'n Deg, efallai y gwnaf i ddod â'r ddau at ei gilydd. Mae Dechrau'n Deg wedi gwneud gwaith gwych yn helpu teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd mewn rhai rhannau o Gymru. Rwy'n…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rwy'n anghytuno'n llwyr â'r safbwynt hwnnw gan yr Aelod. Rydyn ni wedi ei wneud yn glir. Yn wir, rydyn ni wedi rhoi'r arian i mewn ar gyfer y cam cyntaf, sef cyflwyno'r 12.5 awr ym mhob rhan o Gymru o fewn y flwyddyn ariannol gyntaf hon. Mae'n £55…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r cyffredinolrwydd hwnnw'n bwysig iawn, iawn ac, fel rydyn ni wedi'i grybwyll eisoes heddiw, mae'n egwyddor ehangach y dylem ei gwerthfawrogi. O ran hyblygrwydd, wrth i ni gyflwyno cynnig gofal plant cenedlaethol newydd radical, uchelgeisiol, rydyn ni'n…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n rhaid i ofal plant a ariennir fod yn hyblyg i deuluoedd ac yn gyflawnadwy i ddarparwyr. Rydyn ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr cofrestredig i ehangu'r ddarpariaeth yn gynaliadwy a symud i system symlach sy'n haws i rieni ei llywio. Wrth…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Y gwir amdani yw, pan wnaethon ni drafod hyn yn y ffynhonnell, yn ôl yn y pwyllgor bryd hynny, roedd yn ymwneud â gwneud y ddau. Roedd yna gydnabyddiaeth nad oedd hwn yn fesur a fyddai'n atal alcoholigion rhag cael alcohol, oherwydd maen nhw'n gaeth i…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Roeddwn i'n rhan o'r pwyllgor yn y Senedd cyn diwethaf a fu'n asesu manteision ac anfanteision cyflwyno isafbris am alcohol. Roedd yna eraill yma a oedd ar y pwyllgor hwnnw gyda mi. A'r casgliad y daethom iddo oedd, yn union fel gyda sigaréts, gall effaith…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn gwybod, wrth gwrs, nad miliwnyddion rydyn ni'n sôn amdanyn nhw yn y fan yma trwy gyffredinoliaeth, ond teuluoedd sy'n gweithio'n galed, y rhai ar gyflogau canolig, y rhai ar gyflogau canolig y mae'r Aelod yn dweud y dylen nhw gael eu heithrio o…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Felly, does dim toriadau i Dechrau'n Deg. Rydyn ni'n adeiladu llawer ar Dechrau'n Deg wrth gyflwyno'r cynnig gofal plant mwyaf hael unrhyw le yn y DU, ac rydyn ni'n credu yn yr egwyddor o gyffredinoliaeth. Rwy'n synnu mai dyma'r eilwaith y mae'r arweinydd…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n siŵr fy mod i newydd glywed arweinydd Reform yn fy nghyhuddo o fod ag ideoleg amheus pan ddefnyddiodd hi'r geiriau 'sero net gwirion'. Rŵan, mae hynny'n wallgofrwydd ideolegol newid hinsawdd wedi'i lapio yng ngeiriau arweinydd Reform yma yn y Senedd…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ei roi ar y cofnod fel bod arweinydd Reform yn gallu ei ddarllen wedyn, gan nad oedd hi'n gwrando arnaf o'r blaen, fy mod i wedi mynd i'r afael yn uniongyrchol â'i chwestiwn ar y bleidlais yng nghynhadledd y Blaid Werdd, ac fe…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe wnes i ateb eich cwestiwn. Lywydd, fe wnes i ateb y cwestiwn.
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Na. Fe wnes i ateb eich cwestiwn.
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwyf bob amser wedi cefnogi'r ateb dwy wladwriaeth, ac roedd y penderfyniad a gymerwyd yng nghynhadledd y Gwyrddion yn un annoeth, yn fy marn i. Dydw i ddim yn cytuno â'r cynnig hwnnw. Mae'n rhaid i mi, fodd bynnag, gyfeirio at y sylwadau cychwynnol a wnaeth…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Roedd eich arweinydd yn dal ei ben yn ei ddwylo, rwy'n credu, yn ceisio rhoi pellter rhyngddo ef a Reform—a dyna ni: curo'r byrddau ar feinciau Reform at eich dadleuon ymynysol dros Gymru. Mae'r Aelod yn gwybod yn iawn bod y Llywodraeth, i ddefnyddio'r math o…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n cytuno â'r agwedd honno—bod ein cysylltiadau rhyngwladol yn gallu dod â buddion gwirioneddol i bobl Cymru a bod yn rhaid iddyn nhw wneud hynny. Fe wnes i fwynhau fy nghyfranogiad gyda Chymdeithas Seneddol y Gymanwlad dros 10 mlynedd fel cadeirydd. Rwy'n…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch am y cwestiwn. Mae'r grwgnach o feinciau Reform pan soniodd yr Aelod fod gan Gymru ddrws i'r byd yn siarad cyfrolau, rwy'n credu, am blaid sydd eisiau cau pob cyfle i Gymru. Bydd y Llywodraeth hon, fel y dywedais, yn rhyngwladol ei rhagolygon, yn…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae gwario arian ar 'bob math o bethau' yn dipyn o ddadl i'w chyflwyno. Fe ddywedaf i wrthych chi beth mae Llywodraeth Cymru yn sicr i fod i'w wneud yn ôl y gyfraith: ceisio'r gorau i Gymru. Mae ein gweithrediadau rhyngwladol yn ymwneud â cheisio cytundebau…