7 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am ddyfodol canolfan awyr agored Plas Menai yn Arfon? OQ58141
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae un o fy etholwyr i yn Arfon wedi cynnal astudiaeth ymchwil annibynnol ar ôl canfod diffygion yn y ddarpariaeth dyslecsia cyfrwng Cymraeg ar gyfer ei merch. Mae wedi cael ei siomi gan y diffyg adnoddau a gwasanaethau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg…
18 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gynlluniau’r Llywodraeth i gefnogi plant a phobl ifanc dyslecsic yn etholaeth Arfon? OQ58053
11 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor
Cynnig yn ffurfiol.
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch yn fawr. Mae nifer o ffactorau yn dod at ei gilydd i greu'r risg ym mae Hirael, yn cynnwys cynnydd yn lefelau'r môr, bwrdd dŵr uchel a'r ffordd mae'r Afon Adda yn tywallt i'r môr. Dwi'n hynod o falch bod yna arian sylweddol yn cael ei neilltuo i…
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
3. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynllun atal llifogydd bae Hirael, Bangor? OQ57867
22 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog iechyd yn amlinellu pa gamau y mae hi wedi eu cymryd ers i'r newyddion trasig am ddau ddigwyddiad difrifol arall yn uned fasgiwlar Ysbyty Glan Clwyd ddod i'r fei yr wythnos diwethaf? Mae'n rhaid i…
16 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiadau 90 eiliad
Diolch yn fawr iawn. Sefydlwyd cwrs sylfaen celf Coleg Menai yn 1981, ond dim ond eleni mae’r dathliadau 40 mlynedd yn cael eu cynnal, oherwydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus y llynedd. Dyna ysgogodd arweinydd y cwrs, Owein Prendergast, i alw’r arddangosfa yn…
2 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch ichi am eich cefnogaeth efo'r mater yma, achos rydych chi yn gwybod bod yna nifer o broblemau wedi bod yn codi yn fy etholaeth i. Dwi yn dal i helpu nifer o etholwyr efo ceisiadau am iawndal gan y contractwyr neu'r cwmnïau gwarant, ond does yna'r un…
2 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch yn fawr iawn, ond rydych chi yn gwybod am y problemau sydd wedi codi efo'r cynllun hefyd, a dwi yn diolch ichi am eich cefnogaeth efo hyn cyn belled. Dwi ar hyn o bryd yn helpu—
2 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
3. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gynllun Arbed 2 yn Arfon? OQ57712
16 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch yn fawr iawn am y diweddariad yna. Y gwir plaen ydy nad oes yna'r un swydd wedi’i chreu ym Mharc Bryn Cegin ers i’r safle gael ei brynu a’i addasu gan Lywodraeth Cymru, er gwaetha'r arian sylweddol sydd wedi'i wario arno fo ac er gwaetha'r addewidion…
16 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddatblygu busnesau ym Mharc Bryn Cegin, Bangor? OQ57667
9 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch am yr ateb. Mae bron i 5,000 o bobl yng Ngwynedd yn byw efo problemau golwg, ac wrth i'r defnydd o brofion llif unffordd fod yn rhan o'n bywydau ni am gyfnod eto, mae angen sicrhau bod cymorth ar gael iddyn nhw o ran cymryd y profion a hefyd o ran…
9 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y mesurau y mae wedi'u cyflwyno yn ystod y pandemig ar hawliau cyfartal pobl sydd â phroblemau golwg yn Arfon? OQ57613
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Stelcio
Fel rydym ni newydd glywed, mae stelcian yn brofiad trawmatig i'r rhai sy'n ei brofi fo ac yn ei oroesi. Yn aml, mae'r effaith seicolegol enfawr yma yn arwain at iselder, pryder a straen. Credir bod tua hanner goroeswyr stelcian yn cael trafferth efo PTSD…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiadau 90 Eiliad
Roeddwn i am rannu efo'r Senedd wybodaeth am ffilm fer ond hyfryd sy'n rhoi bywyd newydd i un o hen chwedlau ein cenedl ni. Disgyblion Ysgol Gynradd Rhosgadfan yn fy etholaeth i sydd wedi creu'r ffilm. Fe'i dangoswyd yn uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 yn…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae yna dystiolaeth bendant a chynyddol fod ad-drefnu'r gwasanaethau fasgwlar wedi arwain at ddirywiad sylweddol yn y ddarpariaeth ar gyfer pobl y gogledd. Mi fyddai wedi gwneud synnwyr i leoli'r hwb newydd yn Ysbyty Gwynedd, Bangor—dyna fyddai ad-drefnu…
2 Chwefror 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
2. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cynnal gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am wasanaethau fasgiwlar i gleifion o Arfon a phob rhan o’r gogledd ers ad-drefnu’r ddarpariaeth? OQ57541
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Dwi'n gobeithio y gwnaiff y cysylltiad wella wrth i fi symud ymlaen. Mae'r pandemig wedi tanlinellu'r anghydraddoldeb dwfn sydd yn bodoli yn fy etholaeth i rhwng cymunedau â'i gilydd, a rhwng teuluoedd â'i gilydd. Er enghraifft, mae problemau tai anaddas mewn…
12 Ionawr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwersi a ddysgwyd am anghydraddoldebau cymdeithasol yn sgil y pandemig? OQ57412
22 Rhagfyr 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Diweddariad ar COVID-19
Dwi’n deall bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi bod gemau cynghreiriau Cymru—rhai adran ac ardal—yn cael eu gohirio am y tro gan nad ydy 50 o gefnogwyr yn mynd i fod yn ddigon i’r gemau fod yn gynaliadwy yn ariannol. Rŵan, mi fydd hyn yn creu…
13 Rhagfyr 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2020-21
Ac yn olaf, Cadeirydd, ydych chi'n credu bod yr ysgolion wedi bod yn ceisio aros yn yr unfan a chynnal y ddarpariaeth yn ystod y pandemig, ac ydy gwella safonau addysg wedi gorfod cael ei roi i'r naill ochr, mewn gwirionedd, oherwydd cymaint o heriau, a beth…
13 Rhagfyr 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2020-21
Ac ydy'r heriau wedi bod yn anoddach o safbwynt disgyblion uwchradd, yn enwedig y rhai efo anghenion dysgu ychwanegol, neu'r rhai sydd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim?
13 Rhagfyr 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2020-21
Dwi'n meddwl bod Jassa Scott eisiau dod i mewn.