13 Rhagfyr 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2020-21
Rydych chi'n sôn yn fanna am broblemau staffio, felly pa mor effeithiol ydy'r ysgolion wedi bod o ran defnyddio cyllid recriwtio, adfer a chodi safonau Llywodraeth Cymru, sef yr arian ychwanegol yma ei bwrpas o, i fod, oedd dod â mwy o staff i mewn i'r ysgol…
13 Rhagfyr 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2020-21
Rydych chi'n hapus, felly, bod pob ysgol yn gallu darparu ar gyfer yr unigolyn ac yn gallu gorchfygu rhai o'r heriau yma, yn enwedig yr heriau digidol. Rydych chi'n sôn am yr hybiau a'r gallu i bobl ifanc ddod i'r ysgol, ond mae yna heriau pellach ynglŷn â…
13 Rhagfyr 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2020-21
Ie, roeddwn i'n mynd i ofyn ichi am yr agwedd yna yn benodol, o ran yr addysgu a dysgu o bell. Ydych chi'n hyderus bod y sefyllfa wedi newid yn sylweddol yn yr ysgolion erbyn hyn? Ac os oes yna gyfnodau clo yn gorfod digwydd eto ar fyr rybudd, ac mae dyma…
13 Rhagfyr 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2020-21
Bore da. Dwi eisiau jest edrych yn ôl ar y ddau gyfnod pan oedd yr ysgolion ar gau i weld a oedd yna wahaniaeth yn y ddarpariaeth wrth gymharu'r ddau gyfnod yna, ac i ba raddau oedd pethau yn fwy strwythuredig ac yn gyson ac yn fwy effeithiol yr ail dro.
2 Rhagfyr 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru ar gyfer 2020-2021
Gaf i droi at gymwysterau cyfrwng Cymraeg, Cadeirydd? O ran cymwysterau cyfrwng Cymraeg, beth ydy'r sefyllfa bresennol a sut ydych chi'n gobeithio bydd y strategaeth 'Dewis i Bawb' yn gwella hyn? A sut ydych chi'n mynd i fod yn monitro ac yn gwerthuso'r…
2 Rhagfyr 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru ar gyfer 2020-2021
Okay. Thank you for that. Wow—the privatisation of the whole of this area is quite frightening, actually, and maybe it's something that we as a committee could be looking at. Because the situation in Wales is completely different to the situation in England…
2 Rhagfyr 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru ar gyfer 2020-2021
Iawn, fe ddof i nôl at y cymwysterau cyfrwng Cymraeg mewn dau funud, ond jest cwestiwn arall i Philip, efallai. Mae'ch cyfrifon blynyddol chi yn dweud hyn: mae cyfleoedd a risgiau yn gysylltiedig â chael CBAC fel yr unig ddarparwr cymwysterau cyffredinol yng…
2 Rhagfyr 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru ar gyfer 2020-2021
A gaf i ofyn i'r cadeirydd: ydy hyn yn tanlinellu bod efallai gormod o gyrff dyfarnu, a gormod o gymwysterau newydd sydd efallai yn dyblygu cymwysterau sydd eisoes yn bodoli? Ydy hon yn broblem tymor hir, ydych chi'n meddwl?
2 Rhagfyr 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru ar gyfer 2020-2021
Diolch. Jest un sylw ar sail yr hyn sydd wedi cael ei ddweud. Mae cyfathrebu’n bwysig, ond mae penderfyniadau buan ynglŷn â threfniadau'r haf nesaf yn bwysig hefyd. Dwi'n gwybod bod quality assurance yn fater o bwys i chi, ond yn bwysicach yn y pen draw ydy…
2 Rhagfyr 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru ar gyfer 2020-2021
Bore da; da eich gweld chi'ch dau. Rydyn ni'n sôn am gynlluniau wrth gefn ar gyfer y trefniadau flwyddyn nesaf a defnyddio dull tebyg i'r haf diwethaf, felly, yn amlwg, mae gennych chi fodel amgen ar y gweill ac mae gennych chi'r model arferol hefyd. Pryd…
18 Tachwedd 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21
Diolch yn fawr iawn, Cadeirydd. Dyna ddiwedd fy nghwestiynau i, ond dwi'n meddwl y dylem ni, fel pwyllgor, fod yn cadw golwg barcud rŵan ar beth sydd yn digwydd o ran addysg ddewisol yn y cartref. Diolch.
18 Tachwedd 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21
Diolch yn fawr. Efallai y buasech chi jest yn crybwyll yn fyr beth sydd wedi'ch siomi chi fwyaf yn ystod y cyfnod. Hynny yw, beth fuasech chi wedi hoffi gweld mwy o gynnydd arno fo? A gaf i ofyn i chi hefyd, ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi defnyddio eich…
18 Tachwedd 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21
Bore da. A gaf fi ddiolch o galon i chi am eich gwaith diwyd, a diolch i'ch staff hefyd, wrth gwrs, sydd wedi bod yn eich cefnogi chi yn ystod eich cyfnod? A phob dymuniad da i chi ar gyfer y dyfodol. Dwi'n gwybod ein bod ni'n trafod yr adroddiad blynyddol…
16 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Llafaredd a Darllen Plant
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch o glywed y bydd y rhaglen rydych chi'n ei chyhoeddi heddiw yn sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru lyfr ei hun i'w gadw. Mi ges i'n atgoffa yn ddiweddar o'r pleser ges i o ddarllen llyfr o'r enw…
2 Tachwedd 2021 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gweithredu carbon sero-net a’r rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn am y datganiad. Fel rydyn ni'n gwybod, ac fel rydych chi wedi sôn eisoes, mae hi'n wych gallu codi adeiladau newydd sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, ond mae angen inni fod yn ôl-ffitio ein stoc bresennol ni o…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae cymdeithas o bysgotwyr lleol wedi cysylltu efo mi ynghylch potsio honedig sy'n digwydd, a diffyg gorfodi deddfau pysgota. Yr honiad ydy bod yna ostyngiad sylweddol yn nhimau gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru, gan adael tîm o ddim ond 15 i wneud y gwaith yma…
13 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau i daclo pysgota anghyfreithlon? OQ57024
12 Hydref 2021 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21
Diolch am y cyfle i drafod yr adroddiad yma. Hoffwn i ganolbwyntio ar agweddau penodol o'r adroddiad, rhai sydd angen sylw buan a rhai sydd heb gael sylw hyd yma y prynhawn yma. A hoffwn i gymryd y cyfle i holi'r Gweinidog am ei sylwadau, gan dderbyn, wrth…
7 Hydref 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Diolch. Yn olaf gen i, Gadeirydd, i droi at y maes iaith, lleferydd a chyfathrebu yn y blynyddoedd cynnar, beth ydy'ch asesiad chi o effaith y pandemig ar y maes penodol yma? Mae rhywun yn clywed bod yna bryder ynglŷn â phlant yn mynd ar ei hôl hi o ran…
7 Hydref 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Yn dilyn ymlaen o beth dwi'n clywed gennych chi, sydd yn newyddion da, ydych chi'n credu bod angen i addysg blynyddoedd cynnar cyn ysgol ddod o fewn yr un portffolio Cabinet â gofal plant? Hynny yw, oni fyddai fo'n gwneud synnwyr i ddod â'r ddwy agwedd yma…
7 Hydref 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Ydych chi'n meddwl erbyn hyn fod angen ailedrych ar yr holl faes? Hynny yw, os mai prif bwrpas y cynnig gofal plant oedd helpu rhieni fynd i weithio, mae hynny'n un peth, ond a ddylai'r ffocws fod, mewn gwirionedd, ar y plentyn ac ar gefnogi datblygiad…
7 Hydref 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Ac, wrth gwrs, mae gan y Llywodraeth y cynnig gofal plant sydd yn rhoi cyfle ar gyfer derbyn gofal plant mewn sefyllfaoedd penodol. Ydych chi'n credu bod hwn yn gweithio yn llawn? Hynny yw, oes yna risg bod yna rai plant, yn enwedig y rhai o'r teuluoedd mwyaf…
7 Hydref 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Dwi'n falch o glywed hynna, ond wedi dweud hynny, a fyddech chi'n cytuno nad ydy'r sector yma drwyddo draw—y sector gofal plant—ddim mor wydn ag yr hoffem ni ei weld i'r dyfodol, yn sicr?
7 Hydref 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Diolch yn fawr. Diolch am yr ateb cynhwysfawr ynglŷn â maes pwysig sydd yn mynd i fod yn cael sylw gan y pwyllgor yma, dwi'n credu, wrth i ni edrych am sut mae o yn cael ei weithredu, ac ydy'r ymwybyddiaeth yna ymhlith y boblogaeth. A gawn ni droi at y…
7 Hydref 2021 , Children, Young People, and Education Committee
Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Gaf i jest ofyn cwestiwn ynghylch y newid yn y gyfraith ar gosbi plant yn gorfforol? Pa mor hyderus ydy'r Gweinidogion bod rhieni yng Nghymru yn gwybod digon am y newid y bydd yn dod i rym? Pa warantau y gallwch chi eu rhoi y bydd o'n cael ei weithredu mewn…