21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Mae gorchuddion wyneb llawn yn groes i werthoedd Prydeinig
Rwy'n cytuno'n llwyr ei fod yn gywilyddus. A beth sydd hefyd yn gywilyddus yw'r honiad fod menywod Mwslimaidd rywsut yn ddi-lais ac yn cael eu gorfodi i wisgo yn erbyn eu hewyllys. Mae hynny'n rhywiaethol ac yn Islamoffobig. Nid yw'r profiadau hyn a'r…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Mae gorchuddion wyneb llawn yn groes i werthoedd Prydeinig
Nid mewn trefi a dinasoedd pell yn unig y mae'r troseddau hyn yn digwydd, fel y clywsom gan Kiera Marshall, maent yn digwydd yn ein cymunedau ni. Pan ymwelais â mosg ym mis Medi, dywedodd aelodau o'r gymuned Fwslimaidd wrthyf am yr effaith ddofn y mae…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Mae gorchuddion wyneb llawn yn groes i werthoedd Prydeinig
Ni ddylai neb ddweud wrth fenyw beth i wisgo. Mae parch at fenywod yn golygu parch at bob menyw—parchu bod pob menyw yn gallu gwneud ei dewisiadau ei hunan. Roedd ffigurau'r Swyddfa Gartref a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos cynnydd o 13 y cant mewn…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Mae gorchuddion wyneb llawn yn groes i werthoedd Prydeinig
Diolch. Datganiad o ffaith ydoedd am yr hyn a ddigwyddodd yn yr Almaen yn y 1930au. Mae'r ddadl ar orchuddion wyneb, pan fydd Reform UK yn siarad am hynny, bob amser yn cyfeirio at gysylltiad â gwisg grefyddol. Ar 6 Hydref, nododd y dirprwy arweinydd eu…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Mae gorchuddion wyneb llawn yn groes i werthoedd Prydeinig
Beth, datgan hanes?
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Mae gorchuddion wyneb llawn yn groes i werthoedd Prydeinig
Yn hollol. A dangosodd pobl Castell-nedd—. Cawsom ffair fwyd yn ddiweddar lle roeddent yno allan ar y stryd. Ni chawsant erioed gymaint o gefnogaeth a chymaint o gyfraniadau ag a gawsant ar ôl y protestiadau hynny. Daeth pobl Castell-nedd allan ac fe…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Mae gorchuddion wyneb llawn yn groes i werthoedd Prydeinig
Gwnaf.
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Mae gorchuddion wyneb llawn yn groes i werthoedd Prydeinig
Yn hollol, a chynrychioli eu cymunedau a llais eu cymunedau yn briodol. Yn hollol. Mae chwiban y ci'n amrywio o ran ei sŵn, ond mae bob amser yno, ac mae'n mynd yn uwch. Mae'n hofran dros y meinciau hynny, peth annirweddol o fwriad sy'n gadael gormod o bobl…
21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Mae gorchuddion wyneb llawn yn groes i werthoedd Prydeinig
Diolch yn fawr, Lywydd. Cyn imi ddechrau, rwyf am ddweud ei bod hi wedi bod yn ddiwrnod trist heddiw. Fe sefais yn Aberfan y bore yma. Fe sefais ochr yn ochr â'r gymuned honno, a ddaeth at ei gilydd mewn undod yn wyneb y fath adfyd. Ond mae wedi bod yn…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil y Lluoedd Arfog
I gloi, dwi'n credu y dylai cefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog ein huno ni i gyd yn y Siambr hon. I gydnabod effeithiau cadarnhaol y Bil hwn, dwi'n argymell bod y Senedd yn cefnogi'r Bil ac yn rhoi ei chydsyniad. Diolch.
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil y Lluoedd Arfog
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wrth gloi'r ddadl hon, hoffwn ddiolch i'r pwyllgorau a'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl heddiw. Rwy'n credu bod cynnal y ddadl hon heddiw yn sicrhau bod safbwyntiau'r Senedd yn cael eu clywed a'u cynrychioli wrth i'r…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil y Lluoedd Arfog
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n cyflwyno'r cynnig ac yn argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r darpariaethau perthnasol ym Mil y Lluoedd Arfog 2026, fel sydd wedi'u nodi yn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd wedi'i osod ar y Bil hwn. Mae'r Bil yn…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2026
Diolch yn fawr am y cyfraniadau a dwi'n diolch hefyd am waith y Pwyllgor Deddfwriaeth. Fel y soniais i, mae hwn yn offeryn technegol â ffocws penodol nad yw'n ailagor nac yn newid y polisi sydd ym mhrif Orchymyn eithriadau 2026. Felly, ei bwrpas, yn syml, yw…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2026
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cyflwyno'r cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2026. Mae hwn yn offeryn diwygio byr a thechnegol sy'n ofynnol i gadw'r llyfr…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Fel y dywedais, rydym eisoes yn gwneud cynnydd ar baratoi gweithrediad y cynllun peilot Cynnal, taliad plant Cymru. Rydym wedi clywed barn a thystiolaeth ar sut y gallai taliad o'r fath wneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd, felly rydym eisiau gwneud yn…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Diolch yn fawr am y cwestiwn.
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Mae mynd i'r afael â thlodi plant yn ganolog i'n rhaglen lywodraethu. Rydym eisoes yn cyflawni ein hymrwymiadau ar brydau ysgol am ddim a'r cynnig gofal plant, yn ogystal â datblygu ein taliad plant Cynnal. Bydd ein strategaeth tlodi plant newydd yn cynnwys…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Hoffwn egluro'r rheswm pam y mae'n dweud 'seek to pilot': mae hynny oherwydd bod angen i Drysorlys y DU wneud penderfyniad pwysig iawn, oherwydd yr hyn nad ydym am ei wneud gyda Cynnal yw gadael teuluoedd yn waeth eu byd. Rydym am eu gwneud yn well eu byd…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Diolch am y cwestiwn.
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl bod defnyddio'r enghraifft yna y gwnaethoch chi ddefnyddio fanna o ran Aberporth, rhywle dwi'n siŵr bod nifer ohonom ni wedi ymweld ag e—lle hyfryd, lle mor bert, ond mae yna rywbeth cudd, yntefe? Ac mae Llywodraeth Cymru yn…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Rŷn ni'n cydnabod bod teuluoedd mewn ardaloedd gwledig yn gallu wynebu rhwystrau ychwanegol, gan gynnwys mynediad mwy cyfyngedig at gyflogaeth, gwasanaethau a thrafnidiaeth, ynghyd â chostau uwch. Dyna pam mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Rwy'n cydnabod yn llwyr y gofidiau yma. Dwi'n siŵr, eto, eu bod nhw'n gyfarwydd i ni i gyd. Mae'r gwasanaethau yn rhai hanfodol iawn i'n cymunedau ni, yn enwedig i bobl sydd, efallai, ddim yn medru defnyddio, neu does yna ddim argaeledd, trafnidiaeth…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Hoffwn roi gwybod i'r Aelod fy mod wedi cyfarfod â Swyddfa'r Post Cyf ddoe. Unwaith eto, fel y dywedais, rhoddasant sicrwydd y byddant yn cynnal y rhwydwaith, fel sy'n ddyletswydd arnynt. Mae'n bleser gennyf ddweud—gan fy mod wedi codi'r mater hwn yn benodol…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Diolch, Lindsay, am y cwestiwn. Yn gyntaf oll, rwy'n moyn cydnabod y pryder pan fo cymuned yn colli gwasanaethau. Dwi'n gwybod bod nifer ohonom ni wedi gweld hyn yn ein cymunedau dros y blynyddoedd, ar y stryd fawr o ran banciau yn benodol, ac, yn yr un modd…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Mae gwasanaethau swyddfeydd post yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi cymunedau. Mae'r materion hyn, wrth gwrs, wedi'u cadw'n ôl o fewn cylch cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, ac mae'r Llywodraeth honno wedi datgan mai ei nod yw cadw cymaint o…