10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Diolch am hynny. Mae hi'n anodd, a dweud y gwir, clywed rhywun o'r Blaid Geidwadol yn sôn am dlodi plant. Mae'n rhaid i chi gydnabod ac mae'n rhaid i chi berchnogi fel plaid y niwed economaidd a'r niwed a wnaethoch chi i deuluoedd ar draws Cymru am dros…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Wnaf i ddim ailadrodd yr hyn a wnes i ei ddweud wrth ymateb i Shavanah Taj, ond yn amlwg mae'r pethau yna yn mynd i wneud gwahaniaeth. Rŷn ni'n gwybod bod costau gofal plant yr uchaf yn y Deyrnas Gyfunol yng Nghymru, ac felly mae…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r ffordd rydych chi wedi crynhoi'r frwydr y mae pobl yn ei hwynebu. Mae pob un ohonom wedi bod allan yn curo drysau ers misoedd a gwyddom ei bod yn anodd allan yno. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn i bobl ofyn pam y mae gwleidyddiaeth wedi…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Dyma un o'r prif bethau y credaf fod gwir angen inni fynd i'r afael â nhw. Gwariodd y Llywodraeth flaenorol lawer iawn o arian, ac yn gwbl briodol felly, ar geisio cefnogi ein dinasyddion mwyaf agored i niwed, gan gynnwys plant mewn tlodi wrth gwrs, ond nid…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Diolch yn fawr, a diolch am y geiriau yna. Dwi'n gwybod ein bod ni'n rhannu nifer o'n gwerthoedd craidd ni yn y maes cyfiawnder cymdeithasol. Dwi'n edrych ymlaen at gydweithio, fel y gwnaethom ni gydweithio wrth graffu ar y Llywodraeth flaenorol. Diolch yn…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Bydd yr Aelod yn gwybod, wrth gwrs, fod hwn yn gyhoeddiad a wnaed gan y Llywodraeth ddiwethaf. Yn ôl yr hyn rwy'n deall, ac rwyf wedi holi am hyn—. Un o'r pethau cyntaf y gwnes i holi amdano, a dweud y gwir, pan ddes i mewn i'r rôl yma oedd gofyn am sicrhad…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Diolch. Fel y dywedais yn fy natganiad ddoe, ac fel rydym wedi'i nodi yn ein maniffesto, rydym wedi ymrwymo i gynnal egwyddorion cyfamod y lluoedd arfog i sicrhau mynediad teg at ofal iechyd, tai, cyflogaeth, addysg, sgiliau a hyfforddiant i gyn-filwyr a'u…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae'r Llywodraeth yma'n glir bod Cymru yn genedl i bawb sy'n ymgartrefu yma. Beth bynnag eu hiaith, beth bynnag eu tras ethnig, mae e'n rhywle y mae pawb yn gallu ei alw'n gartref, ac fe fyddwn ni fel Llywodraeth wastad yn…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Fel y gwnes i osod mas yn glir iawn ddoe, rŷn ni'n parchu dyfarniad y Goruchaf Lys ac yn bwrw ymlaen â'r gwaith—ac wedi bod yn bwrw ymlaen â'r gwaith ers i'r dyfarniad yna gael ei draddodi—sydd angen ei wneud i sicrhau bod polisi…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Doeddwn i ddim yn clywed cwestiwn yn fanna, felly dyna ni.
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i weithredu'r gyfraith yng Nghymru mewn ffordd sy'n glir, yn gyson ac yn ymarferol, gan sicrhau ar yr un pryd fod pob unigolyn yn cael eu trin ag urddas a pharch.
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Jest i fod yn glir, dydyn ni ddim yn mynd i gyfnewid ein cynllun ar rifedd a llythrennedd. Mae hynny'n rhywbeth rydyn ni fel Llywodraeth wedi ei flaenoriaethu. Ond rydw i a'r Gweinidog dros addysg a'r Gymraeg am i bob plentyn a pherson ifanc yn ein hysgolion…
10 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Fe fyddaf i'n gweithio'n agos gyda'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg i sicrhau bod yr holl dystiolaeth yn cael ei hystyried mewn unrhyw benderfyniadau polisi ar gefnogi dysgwyr trawsryweddol, anneuaidd ac sy'n cwestiynu eu rhywedd.
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb: Blaenoriaethau ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Mae'r rhewi parhaus gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o gyfraddau lwfansau tai lleol wedi parhau i gael effaith anghymesur a niweidiol ar aelwydydd Cymru, a byddaf, ynghyd â'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, yn galw ar Lywodraeth y…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb: Blaenoriaethau ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Diolch yn fawr am y cwestiwn yna.
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb: Blaenoriaethau ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Diolch yn fawr i Jane Dodds. Dwi yn croesawu'r craffu. Fe wnaethon ni graffu gyda'n gilydd, fel aelodau o'r pwyllgor, ar y strategaeth a'r mesurau a oedd gan y Llywodraeth ddiwethaf i fynd i'r afael â thlodi plant ac anghydraddoldeb. Rwy'n croesawu'r ffaith y…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb: Blaenoriaethau ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Mae'r Aelod dros Reform yn amlwg yn ceisio cyflawni rhyw fath o 'wedi'ch dal chi' yma, ond rwy'n credu eich bod chi ond yn datgelu eich diffyg dealltwriaeth o sut mae'r Llywodraeth yn gweithio. Fel Llywodraeth, mae gennym ni ddyletswydd i weithredu'r…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb: Blaenoriaethau ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Diolch am y cwestiwn.
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb: Blaenoriaethau ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Diolch yn fawr iawn. Fel y dywedais i, rydyn ni wedi bod yn glir ein bod ni'n mynd i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau sy'n cael yr effaith fwyaf ar bobl yng Nghymru. Wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys mynd i'r afael â thlodi plant, helpu pobl a theuluoedd gyda…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb: Blaenoriaethau ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Hoffwn i nodi bod dyfarniad y Goruchaf Lys yn nodi bod pobl drawsrywiol yn dal i gael eu diogelu rhag gwahaniaethu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae ailbennu rhywedd yn nodwedd warchodedig. Nid oes unrhyw beth wedi newid ynghylch hynny. Felly, byddwn yn…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb: Blaenoriaethau ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Diolch yn fawr i Peter Fox am yr ymateb yna. Gallaf i ddweud yn hollol glir a chadarn bod cydraddoldeb wir yn golygu rhywbeth, a'i fod e wir yn rhywbeth mae'n rhaid inni roi'r pwys mwyaf arno. Mae peidio â sicrhau cydraddoldeb yn rhywbeth sydd yn creu pob…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb: Blaenoriaethau ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Diolch yn fawr. Diolch am eich ymateb i'r datganiad. Fe wnawn ni ddechrau gyda phrydau ysgol am ddim. Yn amlwg, rwy'n credu mai dyma'r cwpl o ddadleuon cyntaf i mi eu harwain pan gefais i fy ethol i'r Senedd hon am y tro cyntaf. Mae'n rhywbeth y mae fy mhlaid…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb: Blaenoriaethau ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
—ond mi wnaf i gario ymlaen. Roeddwn i jest yn trio gweld os oedd modd i fi gario ymlaen, a bod pobl eisiau gwrando ar yr atebion, ond dyna ni. Ie, mi wnaf i jest sôn yn fras ynglŷn â'ch galwad chi ynglŷn â'r costau. O ran y costau, fe fyddwn ni yn gwneud yn…
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb: Blaenoriaethau ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Dwi ddim wedi gorffen yr ateb—
9 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb: Blaenoriaethau ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb
Diolch yn fawr i'r Aelod am ymateb. Rwy'n falch o'i chlywed hi'n cytuno bod tlodi plant angen bod yn flaenoriaeth. Dwi wedi bod yn gyson ac yn glir, ac fe adlewyrchwyd hynny eto, wrth gwrs, yn fy natganiad o'm blaenoriaethau heddiw, pam mae rhaid i bob…