Dadl: Cyfnod 4 y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
Hwn oedd y bleidlais derfynol, sef Cyfnod 4, ar Fil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Gofynnodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg (Llafur Cymru), i'r Senedd gymeradwyo'r Bil fel y'i diwygiwyd yn gynharach. Dywedodd fod craffu a mewnbwn gan eraill wedi'i gryfhau. Cymeradwyodd y Senedd y Bil.
- Pleidlais ar ddeddfwriaeth
A ddylai'r Senedd gymeradwyo'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod 3, fel y gall symud ymlaen at y cam nesaf tuag at ddod yn gyfraith.
Derbyniwyd