Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil ar isafswm lefelau staffio deintyddol y GIG
Cynigiodd Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) Fil i osod lefelau staffio gofynnol ar gyfer deintyddion y GIG yng Nghymru. Byddai'n ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd gynnal lefelau staffio penodol, ac i Weinidogion gyhoeddi cynllun gweithlu ac adroddiadau blynyddol. Cytunodd y Senedd ar y cynnig.
- Pleidlais ar ddeddfwriaeth
A ddylai'r Senedd gytuno ar y cynnig sy'n nodi'r cynnig am Fil i osod lefelau staffio diogel gofynnol ar gyfer deintyddion y GIG yng Nghymru.
Derbyniwyd