Dadl Reform UK - refferenda lleol ar gyfer codiadau'r dreth gyngor
Gofynnodd Llŷr Powell o Reform UK i Lywodraeth Cymru gyflwyno refferenda lleol ar godiadau treth gyngor uwchlaw 4.99 y cant. Cynigiodd Heledd Fychan o Blaid Cymru roi geiriad yn ei le sy'n dweud bod awdurdodau lleol yn atebol i bobl Cymru wrth bennu cyllidebau. Cytunodd y Senedd ar y geiriad newydd hwnnw.
- Cynnig heb ei ddiwygio
Roedd y bleidlais hon ar gynnig gwreiddiol Reform UK, sy'n gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno refferenda lleol ar godiadau treth gyngor uwchlaw 4.99 y cant.
Gwrthodwyd - Gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Heledd Fychan
Roedd y bleidlais hon ar Welliant 1 gan Blaid Cymru, a fyddai'n rhoi datganiad yn lle'r cynnig cyfan fod awdurdodau lleol yn atebol i bobl Cymru am gyllidebau a'r dreth gyngor.
Derbyniwyd - Cynnig wedi’i ddiwygio
Hon oedd y bleidlais derfynol ar y cynnig fel y'i newidiwyd gan Welliant 1, sy'n dweud bod awdurdodau lleol yn atebol i bobl Cymru wrth bennu cyllidebau a'r dreth gyngor.
Derbyniwyd