13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad: Y camau nesaf ar gyfer Gorchymyn (Dynodi) Parc Cenedlaethol Glyndŵr
Diolchaf i'r Aelod. Gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i gymunedau. Gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i bawb a fydd yn cyflwyno sylwadau yn ystod y cyfnod o bedair wythnos hwnnw. Rwyf wedi ymrwymo i'r Senedd mai fy mwriad yw rhoi penderfyniad terfynol erbyn y Nadolig, a…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad: Y camau nesaf ar gyfer Gorchymyn (Dynodi) Parc Cenedlaethol Glyndŵr
Mae'n rhaid cyfaddef fy mod i fymryn yn siomedig â sylwadau fy nghyfaill o'r cefn yn fanna. Dwi'n un sydd wedi mwynhau mynyddoedd y Berwyn—dwi wedi rhedeg mynyddoedd y Berwyn ar adegau. Dwi'n cydnabod ac yn cytuno â'r Aelod ar ei bwyntiau ar bwysigrwydd ein…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad: Y camau nesaf ar gyfer Gorchymyn (Dynodi) Parc Cenedlaethol Glyndŵr
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Rwy'n credu bod cyfeiriad wedi'i wneud at y swm a wariwyd gan Lywodraeth flaenorol ar y rhaglen hon, ac rwyf wedi rhoi ymrwymiad i'r Senedd y byddwn yn gwario ychydig iawn mewn gwirionedd ar asesu'r wybodaeth a gawn, a rhoi…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad: Y camau nesaf ar gyfer Gorchymyn (Dynodi) Parc Cenedlaethol Glyndŵr
Diolch i’r Aelod. Mi allaf i gadarnhau na fyddwn ni'n gwario ffortiwn, ond yn argymell pobl i hala e-bost atom ni gyda’u sylwadau nhw yn y cam nesaf—nag ar y dadansoddi chwaith. Hynny yw, mae angen i ni symud ymlaen i ddod i benderfyniad rhesymol a chall ar y…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad: Y camau nesaf ar gyfer Gorchymyn (Dynodi) Parc Cenedlaethol Glyndŵr
Diolchaf i'r Aelod am y sylwadau cadarnhaol yna yn gyffredinol. Fel y mae fy nghyd-Aelod wedi'i amlygu, nid oedd unrhyw arian wedi'i ddyrannu yng nghyllideb y Llywodraeth flaenorol at y diben hwn, sydd yn fy marn i'n ddiddorol, a ddywedwn ni. Rydych chi'n…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad: Y camau nesaf ar gyfer Gorchymyn (Dynodi) Parc Cenedlaethol Glyndŵr
Diolch i lefarydd yr wrthblaid am y cwestiynau yna. Mae rhai pwyntiau o sylwedd yna. Rwyf wedi clywed y farn wedi'i mynegi'n glir, y byddaf yn amlwg yn ei hystyried, a byddaf yn ailadrodd fy nghais i unrhyw un sydd â buddiant o ran y materion hyn ysgrifennu…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad: Y camau nesaf ar gyfer Gorchymyn (Dynodi) Parc Cenedlaethol Glyndŵr
Diolch i lefarydd yr wrthblaid am ei sylwadau. Fy mwriad i, Ddirprwy Lywydd, yw peidio â mynd i fanylion enfawr yn fy ymatebion, oherwydd rydym bellach mewn cyfnod o wrando. Rwyf wedi nodi'r sail resymegol ynghylch pam y byddaf yn gwrando dros y pedair…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad: Y camau nesaf ar gyfer Gorchymyn (Dynodi) Parc Cenedlaethol Glyndŵr
Fel dwi eisoes wedi'i nodi, gwnaeth y pum awdurdod lleol yn yr ardal wrthwynebu'r dynodiad. Er fy mod wedi ystyried yn ofalus yr holl sylwadau sydd wedi dod i law, dwi'n cydnabod ei bod yn bwysig iawn deall barn yr awdurdodau lleol yma, sydd eisoes yn chwarae…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad: Y camau nesaf ar gyfer Gorchymyn (Dynodi) Parc Cenedlaethol Glyndŵr
Bydd Aelodau'n cofio bod y weinyddiaeth flaenorol wedi gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru i asesu'r achos o blaid parc cenedlaethol newydd. Yn dilyn rhaglen drwyadl o gasglu tystiolaeth, trafod ac ymgynghori, daeth Cyfoeth Naturiol Cymru i'r casgliad bod ardal y…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad: Y camau nesaf ar gyfer Gorchymyn (Dynodi) Parc Cenedlaethol Glyndŵr
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y camau nesaf ynglŷn â Gorchymyn (Dynodi) Parc Cenedlaethol Glyndŵr a gyflwynwyd i Weinidogion Cymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Ionawr eleni. Ar ôl ystyried y Gorchymyn…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Reform UK: Mynediad at dai amlfeddiannaeth a thai cymdeithasol i wladolion tramor
Lywydd, hoffwn godi pwynt o drefn ynglŷn ag araith yr Aelod a wnaeth y cynnig ar y dechrau. Credaf fod yno gamgymeriad ffeithiol ac rwy'n gwahodd yr Aelod, yn ei hymateb, i gywiro hynny. Roedd yn trafod cenedl, cenedligrwydd a dinasyddiaeth fel pe baent yr un…
7 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Reform UK: Mynediad at dai amlfeddiannaeth a thai cymdeithasol i wladolion tramor
A gaf i ofyn i chi egluro, a ydych chi'n sôn am genedligrwydd hunangofnodedig neu a ydych chi'n sôn am ddinasyddiaeth a deiliaid pasbortau'r DU, oherwydd mae gwahaniaeth rhwng y ddau?
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad
Diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiwn. Mae yna ymrwymiad clir gan y Llywodraeth yma i hybu diwylliant a chwaraeon. Mae yna strategaeth diwylliant a chwaraeon newydd dan ofal y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon a'r Trefnydd. Mae yna ffocws clir…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad
Mae’r rhaglen lywodraethu a'n hamcanion llesiant yn un fframwaith gweithredu sy’n cysylltu'r blaenoriaethau mae pobl wedi ymddiried ynom i’w cyflawni a’r canlyniadau hirdymor yn y Ddeddf rydym am eu cyflawni. Dwi hefyd wedi cytuno i adolygiad o'r Ddeddf, gan…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Nid wyf yn hollol siŵr ei fod yn argyhoeddedig o ran yr hanes o fethiannau ar ôl pum mis. Mae'n debyg y dylwn ei atgoffa bod plaid arall wedi Llywodraethu am 27 mlynedd, ac os yw'n dymuno cyfeirio—[Torri ar draws.] Os yw'n…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad
Mae safbwynt y Llywodraeth hon yn glir: dylai plismona gael ei ddatganoli'n llawn i Gymru. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog a minnau wedi cwrdd â'r Gweinidog plismona i drafod datganoli a blaenoriaethau plismona eraill. Rwyf hefyd wedi cael cyfarfod rhagarweiniol…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiwn, a dwi'n talu teyrnged i'r gwaith mae hi wedi'i wneud, ac eraill yn y Siambr hon, ar sail drawsbleidiol, i ddatblygu ein dealltwriaeth ni o'r effaith mae trawma yn ei gael ar blant ac, yn wir, ar y sawl sy'n…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad
Mae'r heriau mwyaf sy'n wynebu Cymru yn galw am ymateb ar draws y Llywodraeth gyfan. Dyna pam mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi uchelgais newydd i Gymru, wedi'i seilio ar flaenoriaethau a rennir yn hytrach nag ar seilos adrannol. Dwi'n gweithio'n agos iawn…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad
Wel, rwy'n falch iawn o weld bod y Ceidwadwyr Cymreig bellach o blaid yr un bleidlais drosglwyddadwy. Dylwn annog pawb—[Torri ar draws.] Dylwn annog pawb yn—[Torri ar draws.] Wel, dyna'r ffordd orau—[Torri ar draws.] Dyna'r ffordd orau—[Torri ar draws.]…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda phartneriaid ar lefel leol a rhanbarthol i sicrhau bod gwneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau yn digwydd mewn ffyrdd sy'n cefnogi'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus yn effeithiol.
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad
Diolch yn fawr. Dwi'n credu bod yr Aelod yn gofyn i fi ymrwymo i bwyso ar Lywodraeth Prydain i sicrhau cynnydd. Dwi'n gwneud yr ymrwymiad hwnnw yn glir ac yn hapus. Dwi'n credu ei bod hi'n werth adrodd wrth y Senedd fod fy nghyfarfodydd cychwynnol i gyda…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad
Ein hasesiad ni yw y dylai Cymru gael y pwerau sydd eu hangen i gyflawni dros bobl Cymru, gwella gwasanaethau a chryfhau atebolrwydd. Rŷn ni yn pwyso am setliad tecach i Gymru. Byddai Bil Cymru newydd yn darparu'r ffordd gliriaf a mwyaf effeithiol o wneud y…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad
Wel, diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiwn, a dwi'n gwybod bod yntau wedi gwasanaethu'r NHS am flynyddoedd lawer, ac yn effeithiol iawn, yn Abertawe. Mae yna graidd i'r cwestiynau yma, onid oes, sef, gyda'r buddsoddiad ychwanegol mae'r Llywodraeth yma yn ei…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad
Diolch i'r Aelod, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r berthynas drawsffiniol ffyniannus a phwysig sy'n bodoli rhwng gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, ac sydd hefyd rhwng de-ddwyrain Cymru a de-orllewin Lloegr, ac rydym ni'n gefnogol iawn i'r…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad
—gamarwain pobl. Roedd ein maniffesto ni yn yr etholiad, yr oeddem ni'n sefyll arno, y gwnaethom ni ymladd yr etholiad ac ennill yr etholiad arno, yn seiliedig ar flaenoriaethu byrhau rhestrau aros, ar fynd i'r afael â rhestrau aros, blaenoriaethu'r…