30 Medi 2026 , Early Years, Children, Young People and Education Committee
Sesiwn craffu cyffredinol ar waith Llywodraeth Cymru
Diolch yn fawr. Dwi'n falch o glywed hwnna. Dwi'n dod o gefndir undebau myfyrwyr, felly mae gen i ddiddordeb, yn sicr, o ran y rhan yna. O ran yr adolygiad a'r gwaith yma fydd yn mynd rhagddo, un o'r pethau roedd gennyf i ddiddordeb ynddo fo o ran y…
30 Medi 2026 , Early Years, Children, Young People and Education Committee
Sesiwn craffu cyffredinol ar waith Llywodraeth Cymru
Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Wrth ystyried yr adolygiad, rydych chi wedi pwysleisio y bydd yna ymgysylltu efo rhanddeiliaid ac y bydd hynna'n ganolog i'r adolygiad, a bod grŵp cynghori rhanddeiliaid yn cael ei sefydlu. Allwch chi roi mwy o eglurder…
30 Medi 2026 , Early Years, Children, Young People and Education Committee
Sesiwn craffu cyffredinol ar waith Llywodraeth Cymru
Diolch yn fawr. Ddirprwy Weinidog, rydych chi'n barod eisoes wedi sôn am lefelau cyfranogiad, a dwi'n meddwl bod y lefelau cyfranogiad yng Nghymru yr isaf ar draws y Deyrnas Unedig ac yn llai na 30 y cant. Buasai fo'n dda clywed am rai o'r cynlluniau sydd…
30 Medi 2026 , Early Years, Children, Young People and Education Committee
Sesiwn craffu cyffredinol ar waith Llywodraeth Cymru
Diolch.
30 Medi 2026 , Early Years, Children, Young People and Education Committee
Sesiwn craffu cyffredinol ar waith Llywodraeth Cymru
Diolch yn fawr iawn. Mae 1 y cant yn hynod isel ac yn sicr mae yna angen i wella fanna. Yn gysylltiedig efo hynna, mae yna sôn, weithiau, efo darparwyr a Medr, am edrych ar gynyddu'r gyfran o gyllid i wella'r ddarpariaeth addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng…
30 Medi 2026 , Early Years, Children, Young People and Education Committee
Sesiwn craffu cyffredinol ar waith Llywodraeth Cymru
Gaf i ofyn cwestiwn?
30 Medi 2026 , Early Years, Children, Young People and Education Committee
Sesiwn craffu cyffredinol ar waith Llywodraeth Cymru
Diolch yn fawr iawn. Mae gen i ambell i gwestiwn ar y maes yma. Mae yna ddata yn dangos bod cyfran uwch o siaradwyr Cymraeg yn ymgymryd ag addysg uwch mewn colegau, addysg bellach a darparwyr amgen nag mewn prifysgolion. Fodd bynnag, faint o'r myfyrwyr hynny…
30 Medi 2026 , Early Years, Children, Young People and Education Committee
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Jest i nodi fy register of interests a bod gen i bartner sy'n gweithio mewn prifysgol fel darlithydd.
29 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod: Gwella Gofal Newyddenedigol sy'n Canolbwyntio ar y Teulu yng Nghymru: Cynnydd tuag at Siarter Babanod Bliss
Sori. Felly, sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod yr arferion gorau hyn yn cael eu rhannu a'u hymgorffori'n gyson ym mhob rhan o Gymru, a sut ydych chi'n sicrhau bod barn rhieni a'u profiadau nhw'n cael eu casglu a'u defnyddio'n rheolaidd i lywio gwelliannau…
29 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod: Gwella Gofal Newyddenedigol sy'n Canolbwyntio ar y Teulu yng Nghymru: Cynnydd tuag at Siarter Babanod Bliss
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch, Ddirprwy Weinidog. Hoffwn ategu geiriau'r Gweinidog a Janet Finch-Saunders ynglŷn â'r newyddion hynod o drist am farwolaeth babi ym Mangor, sy'n ergyd drom i'r gymuned leol. Dyma hefyd ddatgan buddiant, gan fy mod i am…
29 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb ar y newyddion siomedig y bydd y swyddfa bost ar stryd fawr Bangor yn cau dros dro ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf? Er mai cyfnod o chwe mis o darfu yn unig y mae…
28 Medi 2026 , Culture, Communications, Cymraeg and Sport Committee
Gwaith craffu blynyddol gyda Chwaraeon Cymru
Diolch yn fawr.
28 Medi 2026 , Culture, Communications, Cymraeg and Sport Committee
Gwaith craffu blynyddol gyda Chwaraeon Cymru
Diolch yn fawr iawn. You've touched on women and girls in sports and things around the lighting of facilities, and so on. There's evidence that's been presented to the committee raising concerns about safeguarding in sports, especially the experience of women…
28 Medi 2026 , Culture, Communications, Cymraeg and Sport Committee
Gwaith craffu blynyddol gyda Chwaraeon Cymru
Diolch.
28 Medi 2026 , Culture, Communications, Cymraeg and Sport Committee
Gwaith craffu blynyddol gyda Chwaraeon Cymru
Diolch. Roeddwn i jest eisiau mynd yn ôl. Roeddech chi'n cyfeirio at y Daily Active a, gyda llaw, dwi newydd fod yn Ysgol y Creuddyn yn gweld eu 3G pitsh newydd nhw, sy'n wych ac ar agor i'r gymuned hefyd tu allan i oriau ysgol. Dwi'n meddwl bod y pwynt yna o…
28 Medi 2026 , Culture, Communications, Cymraeg and Sport Committee
Gwaith craffu blynyddol gyda Chwaraeon Cymru
Jest yn dilyn i fyny o’r cwestiwn yna, yn amlwg rydych chi wedi cyfeirio, ac mae’r pwyllgor cynt wedi cyfeirio, efallai, at y bylchau sylweddol oherwydd y diffyg cyllido mewn meysydd fel cyfleusterau, cyfranogiad, a chwaraeon fel rhan o’r agenda iechyd…
28 Medi 2026 , Culture, Communications, Cymraeg and Sport Committee
Gwaith craffu ar Weinidog: Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg
Sori, doeddwn i ddim yn siŵr—roeddwn i'n gweld bod gennym ni bedair munud ar ôl. Felly, un maes dydyn ni ddim wedi'i drafod, ond dwi'n teimlo sy'n bwysig iawn—. Dwi'n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i gryfhau hawliau ieithyddol ac ymestyn safonau'r Gymraeg i…
28 Medi 2026 , Culture, Communications, Cymraeg and Sport Committee
Gwaith craffu ar Weinidog: Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg
Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl bod tipyn o'r cwestiynau roeddwn i'n mynd i'w gofyn yn barod wedi cael eu gofyn o ran y gweithlu, ond, yn amlwg, mae'r targed uchelgeisiol o 50 y cant yn dibynnu'n helaeth ar y gweithlu addysg a'r sgiliau i allu gwireddu hynny…
28 Medi 2026 , Culture, Communications, Cymraeg and Sport Committee
Gwaith craffu ar Weinidog: Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg
—a lle rydym ni'n mynd nesaf efo'r gwaith hynny. Gwnaf i ofyn hwn hefyd, fel bydd hi'n haws i chi ddod i mewn wedyn. Un o'r pethau eraill sydd gennyf i ddiddordeb ynddyn nhw yw, yn amlwg, mae yna gyfeiriad at waith o ran polisi economaidd, ac, yn benodol, yn…
28 Medi 2026 , Culture, Communications, Cymraeg and Sport Committee
Gwaith craffu ar Weinidog: Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg
Wel, holl waith y comisiwn, mewn ffordd—
28 Medi 2026 , Culture, Communications, Cymraeg and Sport Committee
Gwaith craffu ar Weinidog: Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg
Diolch yn fawr. Yn dilyn o beth roedd Niamh yn cyfeirio ato fanna, a'r cyfeiriad at y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, dwi'n meddwl beth sy'n bwysig iawn am y darn yna o waith ydy ei fod o'n edrych y tu hwnt i addysg, ac mae o'n edrych ar bopeth o ran y Gymraeg…
28 Medi 2026 , Culture, Communications, Cymraeg and Sport Committee
Gwaith craffu ar Weinidog: Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg
Mae hyn yn dilyn beth mae Paul wedi'i ddweud yn barod. Rydych chi'n sôn am gael strategaeth newydd yn adeiladu ar seiliau 'Cymraeg 2050'. Beth fuasai gennym ni fel pwyllgor ddiddordeb i'w wybod yw beth fydd yn sylweddol yn wahanol yn y strategaeth newydd a…
28 Medi 2026 , Culture, Communications, Cymraeg and Sport Committee
Gwaith craffu ar Weinidog: Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg
Roeddwn i eisiau gofyn yn fwy am strategaeth y Gymraeg a'r gwaith trawslywodraethol. Doeddwn i ddim yn siŵr os oedd Paul eisiau dod i mewn yn benodol cyn i fi ddod mewn ar y stwff data.
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Diolch, Gwnsler. Ym mis Chwefror, fe adroddodd Cymdeithas y Cyfreithwyr ar yr anialwch cyfreithiol yng Nghymru, gan amlinellu sut mae mynediad pobl at wasanaethau cyfreithiol yn gostwng y tu allan i goridor yr M4. Tra bod gan Gaerdydd 12.3 cyfreithiwr i bob…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
5. Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei wneud o allu pobl i gael mynediad at wasanaethau cyfreithiol a chyfiawnder drwy gyfrwng y Gymraeg? OQ64495