Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil i wahardd defnyddio plastig untro ar ffrwythau a llysiau
Cynigiodd Rhys ab Owen, Aelod Annibynnol, fod y Senedd yn nodi cynllun ar gyfer Bil i wahardd plastig untro ar ffrwythau a llysiau nad ydynt yn cael fawr ddim budd o ran oes silff ohono. Byddai'r gwaharddiad yn berthnasol i bryniannau o dan 1.5kg. Cytunodd y Senedd i'r cynnig.
- Pleidlais ar ddeddfwriaeth
A ddylai'r Senedd gytuno i'r cynnig sy'n nodi'r Bil arfaethedig i wahardd plastig untro ar ffrwythau a llysiau a werthir mewn symiau o dan 1.5kg.
Derbyniwyd