16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Wel, trwy wneud y gwaith a amlinellais yn gynharach. Rydym yn Llywodraeth newydd, mae gennym lens newydd, ac egni newydd, gobeithio, i fod eisiau gwneud y defnydd gorau o'r bunt Gymreig ac i wneud yn siŵr ein bod yn cael ein harwain gan ganlyniadau yn y…
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Dwi yn fodlon ymrwymo i edrych ar y mater yma. Dyw e ddim yn fater dwi'n hollol gyfarwydd ag e. Dwi yn gweld y gwerth sydd yna a dwi'n ymwybodol iawn bod fy nghyd-Weinidogion yn ymwybodol iawn bod impact unrhyw newidiadau cyllid angen cael eu hasesu ac angen…
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Nid wyf am fod yn un o'r Gweinidogion hynny sy'n osgoi'r term 'toriadau' bob amser ac sy'n ceisio dweud 'arbedion effeithlonrwydd' neu ffyrdd eraill o'i ddisgrifio. Felly, mae'r holl ffactorau hyn yn y pair, fel y'i gwelaf, ar hyn o bryd. Mae'r trosolwg hwnnw…
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Dwi'n meddwl bod y cwestiwn yna yn un gwirioneddol ddiddorol, ac yn wirioneddol yn gwestiwn sydd yn ein hwynebu ni fel Llywodraeth, sy'n Llywodraeth am y tro cyntaf. Rydym ni wedi etifeddu cyllidebau sydd wedi cael eu cynllunio gan bleidiau eraill a…
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Rwy'n derbyn bod y gofyn yn uwch i'r busnesau ar draws y portffolio ardrethi busnes sydd â'r gwerthoedd ardrethol uwch. Y peth na sonioch chi amdano yn eich cwestiwn oedd yr hyd at 20,000 o fusnesau a fydd yn elwa o drethi is o ganlyniad i'r cyhoeddiad ddoe…
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Roedd wedi ei gostio'n llawn, ond y gwaith y mae'n rhaid inni ei wneud fel Llywodraeth, ac rwyf wedi cyfeirio ato eisoes, yw'r ddisgyblaeth y mae'n rhaid i Weinidogion ei hwynebu nawr wrth ddyrannu o fewn eu blaenoriaethau sut y maent yn cyfuno'r…
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Mae dwy elfen i hyn; rwyf wedi siarad am y ddwy, ddwywaith mewn gwirionedd, ar y rhaglen wleidyddiaeth. Un oedd yr heriau yn ystod y flwyddyn a etifeddodd Llywodraeth Cymru o ganlyniad i'r gyllideb a osodwyd y llynedd ac a basiwyd y llynedd. Mae'r pwysau yn…
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Mae economi twristiaeth drwy gydol y flwyddyn yn rhywbeth rwy'n bendant am ei weld, ar gyfer yr etholaeth y mae'r ddau ohonom yn ei chynrychioli, ond hefyd i Gymru yn gyffredinol. Rwy'n credu ein bod wedi gweld cynnydd sylweddol ar hynny dros y blynyddoedd…
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Wel, mae e wastad wedi bod yn rhywbeth sydd wedi bod yn bwnc trafod yn y Senedd yma, a chyda Plaid Cymru hefyd, lle mae'r pwynt yna lle mae'r cydbwysedd yn y farchnad dai yn gorwedd rhwng y stoc dai sydd ar gael i ni ar gyfer pobl i fyw ynddyn nhw, a hefyd y…
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Mae cronfa buddsoddi twristiaeth Cymru, a mentrau eraill, yn buddsoddi bron i £60 miliwn yn uniongyrchol yng Nghymru. Mae llawer o fusnesau'n derbyn rhyddhad ardrethi annomestig neu byddant yn elwa o'r lluosydd is estynedig o 2027 ymlaen, fel y cyhoeddais i…
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Nid wyf yn credu bod gennym ni flaenoriaethau gwahanol, Mike; rwy'n credu ein bod ni'n rhannu'r flaenoriaeth o fod angen gwario mwy ar anghenion dysgu ychwanegol. Roeddem ni'n barod ac fe wnaethom ni bleidleisio o blaid hynny yn y gyllideb atodol. Nid wyf yn…
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Ydw, rwy'n sicr yn cytuno, wrth edrych ar gyllidebau, fod angen inni edrych ar fwy na’r llinellau gwariant fel y cânt eu drafftio ar daenlen, a bod angen inni edrych yn iawn ar ble y gellir gwella ein canlyniadau, ac rydych chi wedi rhestru rhai o'r meysydd…
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
O ddifrif, nid oes gennyf unrhyw linellau coch ar ddechrau'r broses gyllidebol hon, o ran y gwaith rwy'n ei wneud yn y Llywodraeth a'r angen, fel y nodais yn fy natganiad cychwynnol, i'r Llywodraeth hon fod yn ddisgybledig yn y ffordd y mae ein Gweinidogion…
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Nid wyf yn siŵr a fyddaf bob amser yn croesawu cwestiwn gan Andrew R.T. Davies yn fy rôl fel Gweinidog Cabinet dros Gyllid, ond heddiw yn arbennig, roedd yn ddefnyddiol iawn gweld bod eich cwestiwn, a luniwyd yn y modd hwn, wedi gadael i mi amlinellu rhai o…
16 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid
Mae gwersi i’r Llywodraeth a phleidiau gwleidyddol o'r bleidlais ar y gyllideb atodol. Mewn Senedd heb fwyafrif clir, mae cydweithrediad a phenderfyniadau cyfrifol yn hanfodol wrth inni edrych ymlaen at gyllidebau’r dyfodol. Mae’r Llywodraeth eisiau…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid: Ailgydbwyso'r system ardrethi annomestig
Mae'r pwyntiau rydych chi wedi'u gwneud a'r enghreifftiau rydych chi wedi'u rhoi o ran pa mor bwysig yw'r sector lletygarwch yn ein gwahanol gymunedau, a pha mor bwysig yw e ar gyfer gwahanol agweddau ar yr economi, faint o'n pobl ifanc sy'n cael eu swyddi…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid: Ailgydbwyso'r system ardrethi annomestig
Diolch am eich cyfraniad, a diolch am ehangu'r drafodaeth i feysydd eraill y bydd gan y Senedd hon ddiddordeb ynddyn nhw dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Fel y dywedais i, cam cyntaf i gefnogi busnesau ar ein stryd fawr yw hwn. Mae'r pecyn cymorth y…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid: Ailgydbwyso'r system ardrethi annomestig
Roeddwn i'n amlwg yn rhy awyddus i fynd i'r dafarn i baratoi ar gyfer y datganiad hwn, felly fe wnaf i fyfyrio ar yr hyn y mae pawb wedi'i ddweud wrth feddwl am amseriad datganiadau. Ond yn ddiffuant iawn, fe allwn i fod wedi gwneud y datganiad hwn yn ystod…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid: Ailgydbwyso'r system ardrethi annomestig
Diolch am y cyfraniad.
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid: Ailgydbwyso'r system ardrethi annomestig
Diolch am y sylwadau a'r croeso a'r heriau yn eich cyfraniad. Wrth gwrs, un o'r manteision, gobeithio, bydd y busnesau sydd yn gymwys ar gyfer y gefnogaeth yma'n ei weld yw y bydd e'n 30 y cant o ostyngiad parhaol iddyn nhw. Mae'r gostyngiad sydd mewn lle ar…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid: Ailgydbwyso'r system ardrethi annomestig
Ie, wel, mae'n siŵr y gallwn i fod wedi gwneud y datganiad yma unrhyw bryd yn ystod tymor yr haf. Roedd y datganiad yn barod i'w wneud. Dewisais i yn benodol i aros tan ddiwrnod cyntaf y Senedd i fod nôl yn ymgynnull i wneud y datganiad, a dwi'n ei wneud e ar…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid: Ailgydbwyso'r system ardrethi annomestig
Byddaf yn cyflwyno'r rheoliadau sydd eu hangen i weithredu'r newidiadau i'r lluosyddion gwahaniaethol yn yr wythnosau nesaf. Bydd y rheoliadau yn nodi'r eiddo a fydd yn ddarostyngedig i'r lluosydd is, ac yn diwygio'r gwerth a ddefnyddir i gyfrifo'r lluosydd…
15 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cabinet dros Gyllid: Ailgydbwyso'r system ardrethi annomestig
Diolch, Lywydd. Heddiw, rwy'n falch i gyhoeddi newidiadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i adlewyrchu'r ymrwymiadau yn ein maniffesto i ailgydbwyso’r system ardrethi annomestig, a sicrhau tegwch i fusnesau'r stryd fawr. Rŷm ni'n cydnabod pwysigrwydd…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Y Gyllideb Atodol Gyntaf 2026-27
Gofynnaf i'r Aelodau bleidleisio dros y cynnig cyllidebol hwn, i godi ein pennau ar y cyd uwchben gwleidyddiaeth bleidiol llwythol. Oherwydd mae hon yn gyllideb flaengar ar gyfer pleidiau blaengar. Ac yn bwysicach byth, mae'n rhoi blaenoriaethau pobl Cymru yn…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Y Gyllideb Atodol Gyntaf 2026-27
I Aelodau Llafur, hen a newydd, rwy'n gwybod eich bod chi wedi cael eich trechu'n wael yn ddiweddar mewn etholiad. Rwy'n gwybod ei fod yn boenus ac yn ddryslyd. Rwyf wedi bod yno. Ond, yn y pen draw, fyddwch chi ddim yn cael eich diffinio gan y golled honno…