21 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Reform UK: Strategaeth canser y prostad
Ni all unrhyw beth byth baratoi rhywun ar gyfer cael diagnosis o ganser, neu glywed am ddiagnosis aelod o'r teulu neu ffrind yn wir. Mae'n un o'r pethau mwyaf dychrynllyd y gellir dweud wrth unrhyw un, ac mae'n glefyd sy'n cyffwrdd â gymaint ohonom. Felly…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan
Cynhyrchodd Cymru beth o’r glo gorau yn y byd. Am genedlaethau, bu glowyr Cymru yn cynnal ein cymunedau, ein diwydiannau a’n heconomi. Roedden nhw’n cynrychioli’r gorau o’r hyn y gallem ni heddiw ei alw’n 'alarm clock Britain'—pobl oedd yn codi, yn mynd i’r…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan
Mae'r ffaith bod Ei Diweddar Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II wedi ymweld ag Aberfan ar wyth achlysur, gan gynnwys yn syth ar ôl y drychineb, yn adlewyrchu dwyster ei effaith. Yr wythnos hon, bydd y Brenin, y Frenhines a Thywysog Cymru yn ymweld, ac rwy'n…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Nodi 60 mlynedd ers Trychineb Aberfan
Rwy'n diolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad i nodi'r achlysur difrifol hwn. Chwe deg mlynedd yn ôl, ar 21 Hydref, aeth staff a disgyblion Pantglas i'r ysgol am y diwrnod olaf cyn hanner tymor. Yn drasig, i gynifer ohonyn nhw, hwnnw fyddai diwrnod olaf eu…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Diolch i chi. Mae'r ymchwiliad wedi cadarnhau y bydd yn archwilio materion sy'n cynnwys gwasanaethau sy'n ddatganoledig yng Nghymru. Fe wnaethoch chi ddechrau egluro'r rhwymedigaethau cyfreithiol a roddwyd ar Lywodraeth Cymru i gydweithredu â'r ymchwiliad. A…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
4. Pa gyngor cyfreithiol y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ei chyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas â’r ymchwiliad annibynnol i gangiau grŵmio? OQ64725
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydych chi'n sôn am rymuso ysgolion i wneud y dewisiadau angenrheidiol ynghylch ffonau, ac mae hynny'n arwain at y syniad hwn o ganllawiau yn hytrach na gwneud rhywbeth yn gyfraith. Brif Weinidog, y gwir yw eich bod chi'n siarad, fel y gwyddoch, â…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Prif Weinidog, mae un broblem adnabyddus o ran ymddygiad mewn ysgolion yn gysylltiedig â'r ffaith fod gan fyfyrwyr fynediad at eu ffonau symudol. Ddiwedd mis Gorffennaf eleni, rhoddwyd eglurder i ysgolion ar draws y ffin yn Lloegr ynghylch defnydd o ffonau…
20 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Lywydd. Hoffwn dalu teyrnged yn gyntaf i drasiedi Aberfan, a ddigwyddodd 60 mlynedd yn ôl yfory. Ni fyddwn ni byth yn anghofio'r bywydau a gollwyd a'r gymuned a greithiwyd am byth gan y digwyddiad ofnadwy hwn. Rwy'n sylweddoli bod y Llywodraeth yn…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, 'nac ydy' yw'r ateb, ac mae'n drueni gweld eich bod chi'n benderfynol o barhau rhyfel Mark Drakeford yn erbyn modurwyr. Does dim byd yn newid, nac oes? Mae'r consensws clyd yng Nghaerdydd yn parhau. Wrth siarad am hynny, Brif Weinidog, trwy gydol…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Y pwynt yw ein bod ni'n derbyn yn llwyr bod gennym ni droseddwyr cartref yn y wlad eisoes, ond pam fyddem ni'n cymryd y risg o fewnforio mwy? Pobl nad ydym ni'n eu hadnabod—dydyn ni'n gwybod dim byd amdanyn nhw. Y gwir yw, pa un a yw hwn yn achos neilltuol ai…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, hoffwn godi achos hynod annymunol o'n prifddinas. Ym mis Mawrth eleni, cyrhaeddodd y dyn 29 oed, Mohammed Abbas, Brydain ar gwch bach o Ffrainc. Erbyn mis Mehefin, roedd yn y ddalfa yn wynebu cyhuddiadau troseddol. Ym mis…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Brif Weinidog, mae'n amlwg i unrhyw un sydd ag owns o synnwyr cyffredin mai'r rheswm y gall unrhyw un ddweud unrhyw beth negyddol am y cyfnod ar ôl Brexit yw oherwydd na wnaeth y bobl a oedd yn gyfrifol am roi'r cyfan ar waith wneud y mwyaf o'r cyfleoedd a…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Y rhagarweiniad, nid y cwestiwn go iawn. Brif Weinidog, mae'n eithaf amlwg, unwaith eto, bod eich plaid ar yr ochr anghywir i hanes wrth fethu â sefyll i fyny dros ein cymuned Iddewig fregus. Enghraifft arall o Blaid ar yr ochr anghywir i hanes yw Brexit…
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn hytrach na chondemnio—. Dyna'r hyn wnaethoch chi ddewis ei ddweud.
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Felly, dyna'r hyn wnaethoch chi ddewis canolbwyntio arno yn eich ymateb—
6 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Lywydd. Cyn i mi ddechrau, a gaf i longyfarch y Cymro Elfyn Evans ar ddod yn bencampwr ralïo'r byd ar ôl diweddglo cyffrous yn Sardinia ddydd Sul? Am foment falch i Gymru ac am olygfa hyfryd i weld y ddraig goch yn hedfan ar y llwyfan rhyngwladol…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Reform UK: Terfyn cyflymder diofyn 20 mya
Nid oes arno eu hofn.
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Reform UK: Terfyn cyflymder diofyn 20 mya
Rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad ar yr hyn y mae'r polisi diofyn 20 mya wedi'i olygu mewn gwirionedd i gymunedau a chynghorau ar draws fy etholaeth, Bangor Conwy Môn. Pan gyflwynwyd y polisi diofyn—y polisi diofyn—am y tro cyntaf, roedd yn ofynnol i…
30 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Dadl Reform UK: Terfyn cyflymder diofyn 20 mya
Dwi’n croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl yma, ac yn diolch i fy nghyd-Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Mae’n safbwynt ni ar 20 mya yn glir. Fe wnaethon ni sefyll ar addewid i gael gwared ar y polisi diofyn a mynd yn ôl at derfynau cyflymder sy’n…
29 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Does neb ar ein meinciau ni yn difrïo Cymru. Rydyn ni'n credu mewn Cymru gref mewn Teyrnas Unedig gref. Mae'n rhaid i ni gofio hefyd, mewn pôl a gomisiynwyd gan YesCymru yn ddiweddar, fod dwy ran o dair o'r bobl a ymatebodd wedi dweud nad oedden nhw eisiau…
29 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ni fydd Reform byth yn fyrbwyll pan ddaw i amddiffyn ein cenedl, ac rydyn ni'n credu mewn Cymru gref mewn Teyrnas Unedig gref. Wrth sôn am gyflogwyr mawr yng Nghymru, Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf fe wnaethon ni ddysgu bod Legal & General, cwmni sy'n…
29 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, yn dilyn y digwyddiad difrifol yn ymwneud ag awyren Hawk yr RAF ar Ynys Môn yr wythnos diwethaf, rwy'n siŵr y gwnewch chi'n ymuno â mi i dalu teyrnged i'r gwasanaethau brys a ymatebodd mor gyflym, i'r ddau griw awyr dan sylw ac…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Eich dwyn i gyfrif yw ein cyfrifoldeb ni fel gwrthblaid effeithiol. Cymerwch y GIG. Rydych chi'n addo hyd at 10 canolfan lawfeddygol, mwy o allu diagnostig, llwybrau clinigol cryfach a hyd at 100 yn fwy o feddygon teulu. Mae'r rhain yn ymrwymiadau…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Brif Weinidog, a gaf i ddechrau trwy ddiolch i chi am gyflwyno eich rhaglen lywodraethu heddiw? Mae llawer yn y rhaglen hon y gall Reform gytuno â nhw. Rydym eisiau i restrau aros ddod i lawr, rydym eisiau safonau yn ein hysgolion i wella, rydym eisiau swyddi…